Mastiau: 'O fudd i'r gymuned am flynyddoedd i ddod'
|
Mae pobl ardal wledig yng Ngheredigion wedi cael sêl bendith i godi eu mast eu hunain gan nad oes modd defnyddio ffonau symudol yno. Hwn fydd un o'r cynlluniau cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae Fforwm Cymunedol Ger-y-Gors wedi sefydlu cwmni nid-er-elw i fod yn gyfrifol am y mast ac wedi derbyn grant o £164,542 i wneud y gwaith. Bydd y mast ym mhentref Ystrad Feurig yn galluogi pobl yn ardal Pontrhydfendigaid i ddefnyddio ffonau symudol. Bydd y mast yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn ac yn cael ei rentu i gwmnïau ffonau oedd wedi dweud bod y syniad o godi mast yn "anghynaladwy yn fasnachol". Bydd y fforwm nawr yn gwneud cais am arian ar gyfer dau fast arall yn yr ardal. 'Cynllun pwysig' Dywedodd Duncan Taylor, cadeirydd Fforwm Cymunedol Ger-y-Gors, y bydd y prosiect o fudd i'r 1,500 o bobl yn ardal Pontrhydfendigaid, sydd wedi "diflasu" am nad oedd modd defnyddio'r ffonau. "Rydyn ni'n credu fod hwn yn gynllun pwysig o safbwynt economeg gymdeithasol fydd o fudd i'n cymuned am flynyddoedd i ddod. "Bydd yn rhoi tawelwch meddwl i'r bobl leol ac i ymwelwyr sy'n defnyddio llwybrau cerdded mewn ardal lle nad oes ffonau arferol ar gael. "Bydd hefyd yn dod â band eang cyflym i'r gymuned amaethyddol". Dywedodd y byddai incwm rhent o gwmnïau ffôn yn talu am gost cynnal a chadw'r mast. Yn ôl Diane Davies, swyddog gweinyddol Pafiliwn y Bont ym Mhontrhydfendigaid, "Bydd y mastiau'n gaffaeliad mawr i'r ardal." Mae'r cynllun yn rhan o brosiect gwerth £1.1m yng Ngheredigion, wedi ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad a'r Undeb Ewropeaidd.
|