British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 14 Ionawr 2011, 14:35 GMT
Euog o ledu asbestos

Llysoedd Yr Wyddgrug

Mae perchennog clwb nos wedi cyfadde' iddo wneud gwaith ar yr adeilad heb gymryd camau i sicrhau nad oedd asbestos yn ymledu oddi yno.

Penderfynodd ynadon Wrecsam - oedd yn eistedd yn llys Yr Wyddgrug - y dylai Michael Campbell Murton, 35 oed, gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron.

Fe brynodd Murton, o Bewdley ger Kidderminster, glwb nos Scott's yn Wrecsam ac fe ddechreuodd wneud gwaith ar yr adeilad ym mis Chwefror y llynedd.

Plediodd yn euog i 12 trosedd dan y Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd, Rheolau Asbestos a Rheolau Gwastraff Peryglus.

Roedd hynny'n cynnwys peidio gofalu nad oedd ei staff yn dod i gysylltiad gyda ffibrau asbestos, peidio atal asbestos rhag dianc o'r adeilad, peidio cynnal asesiad i bresenoldeb asbestos yn yr adeilad a gweithio gydag asbestos pan nad oedd ganddo drwydded i wneud hynny.

Mae'n cyfadde' hefyd iddo beidio cadw cofnod o symud gwastraff peryglus.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yn ddiweddarach.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific