British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 14 Ionawr 2011, 12:53 GMT
Technoleg: Help llaw i gyfieithu

Prifysgol Cymru Bangor
Y Gweinidog Treftadaeth sy'n agor y gynhadledd ym Mangor

Gallai technoleg cyfieithu helpu diwydiant yng Nghymru a chynnal cymunedau dwyieithog y wlad, yn ôl academwyr.

Mae'r gynhadledd ar y cyd rhwng prifysgolion Abertawe a Bangor yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener yn cyfeirio at y datblygiadau diweddaraf ym maes technolegau iaith.

Yn ôl Delyth Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor mae cwmnïau yn awyddus i wybod sut i gyfieithu yn gyflymach ac yn rhatach.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio â nifer o gwmnïau bach a chanolig eu maint yng Nghymru sy'n awyddus iawn i ddysgu sut mae gwneud gwell defnydd o dechnoleg yn medru eu helpu i gyfieithu yn well, yn gynt ac yn rhatach.

'Allweddol'

"Ar gyfer y gynhadledd rydym wedi casglu at ei gilydd nifer o adnoddau allweddol mewn casgliad o raglenni fydd yn cael eu dosbarthu am ddim i gynadleddwyr ar gofion bach."

Y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, sy'n agor y gynhadledd.

"Mae hon yn sefyllfa lle mae Cymru ar ei hennill mewn dwy ffordd," meddai Mr Jones.

"Rydym yn datblygu arbenigedd yn y diwydiant cyfieithu, yn gyntaf er mwyn gwasanaethu anghenion Cymru ddwyieithog, ond rydym hefyd yn gweld manteision a buddiannau gweithgareddau ymchwil a meddalwedd newydd lle mae'r effeithiau yn llawer ehangach."

Ysbrydoliaeth

Yn y cyfamser, mae cynhadledd ddydd Gwener yn cydnabod ysbrydoliaeth Hywel Teifi Edwards.

Ymhlith y siaradwyr yn y Forge Fach, Clydach, mae Wil Aaron, Glynog Davies, Geraint Ellis, Beti George, Heini Gruffudd, Colin Jenkins, Helen Prosser, Elin Rhys, Robert Rhys ac Euryn Ogwen Williams.

Nod y gynhadledd, yn ôl y trefnwyr, yw "cloriannu ei gyfraniad drwy ei ddosbarthiadau allanol, ei ddarlithoedd cyhoeddus a'i raglenni radio a theledu a hefyd ofyn cwestiynau cyfoes ar sail hynny".

Hon fydd y gynhadledd undydd gyntaf mewn cyfres.



HEFYD
Rhybudd Bwrdd am gyfieithwyr
08 Tach 10 |  Newyddion
Trosi i ieithoedd y Balcannau
06 Ebr 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific