British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 14 Ionawr 2011, 06:57 GMT
Prifysgolion: 'Bwlch o £80 miliwn'

Myfyrwyr
Mae £900 yn llai yn cael ei wario ar myfyrwyr yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae yna fwlch o £80 miliwn rhwng prifysgolion yng Nghymru a rhai Lloegr.

Yn ôl dadansoddiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, roedd £900 yn llai yn cael ei wario gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2007-08 ar bob myfyriwr yng Nghymru o'i gymharu â'r hyn oedd yn cael ei wario yn Lloegr.

Mae hynny'n cymharu â £200 yn llai ar gyfer pob myfyriwr 10 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn disgwyl y bydd y bwlch yn diflannu dros y blynyddoedd nesa.

Ymdopi

Yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard Davies, mae sefydliadau yng Nghymru wedi dysgu sut i ymdopi yn y sefyllfa sydd ohoni.

Pe bai'r lefel gyllido'r un peth ag yn Lloegr, meddai, byddai Abertawe yn cael £6 miliwn yn fwy bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd mae'r brifysgol yn derbyn £160 miliwn bob blwyddyn.

"Y peth anhygoel am y sefyllfa yng Nghymru yw pa mor dda rydym yn ei wneud yn yr arolwg blynyddol gan fyfyrwyr.

"Mae'r arolwg o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf yn cofnodi safon eu haddysg.

"Felly er ein bod yn cael llai, dyw ein myfyrwyr ddim yn dioddef."

Ffïoedd ychwanegol

Daw'r newyddion am y bwlch cyllido wrth i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gyhoeddi toriadau o 4% (cyfanswm o £15 miliwn) ar gyfer eleni.

Dywedodd yr Athro Davies nad oedd yn poeni yn ormodol am hyn gan fod Abertawe a sefydliadau eraill yng Nghymru mewn "cyflwr da yn ariannol."

Yn Nhachwedd penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad fod yn gyfrifol am ysgwyddo'r codiad yn y ffïoedd ychwanegol fydd yn cael eu codi ar fyfyrwyr o Gymru fydd yn mynychu unrhyw brifysgol ym Mhrydain.

'Hael'

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad: "Rydym yn darparu cymhorthdal sylweddol ar gyfer addysg bellach yng Nghymru - o ran sefydliadau a chefnogi myfyrwyr.

"Yn Nhachwedd, fe wnaeth y gweinidog wneud datganiad pwysig o safbwynt dyfodol ffïoedd yng Nghymru.

"Dywedodd y byddai'r lefel o gymhorthdal dysgu sy ar gael i sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn fwy na'r hyn fydd ar gael i sefydliadau yn Lloegr."



HEFYD
Colli swyddi a chyrsiau mewn prifysgol
07 Ion 11 |  Newyddion
Addysg: Chwe sefydliad yn unig?
22 Rhag 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific