British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 13 Ionawr 2011, 14:11 GMT
Rheithfarn naratif wedi damwain awyr

Katie-Jo Davies a Nikkita Walters
Roedd Katie-Jo Davies a Nikkita Walters yn ddisgyblion yn Ysgol Tonyrefail

Mae crwner wedi cofnodi rheithfarn naratif wedi damwain awyr laddodd bedwar o bobl bron dwy flynedd yn ôl.

Roedd Katie-Jo Davies, 14 oed a Nikkita Walters, 13 oed, yn cael eu hyfforddi gan Hylton Price, 63 oed ac Andrew Marsh, 24 oed, uwchben Porthcawl ar Chwefror 11, 2009.

Yn Llys Crwner Aberdâr clywodd y crwner Peter Maddox fod y ddamwain ym mis Chwefror 2009.

Roedd y peilotiaid mewn awyrennau gwahanol gyda'r merched o Gilfach Goch.

Clywodd y cwest na welodd y ddau beilot ei gilydd mewn pryd.

Adroddiadau

Roedd y merched yn gadetiaid Corfflu Hyfforddi Awyr ac yn ddisgyblion yn Ysgol Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.

Roedden nhw "ar brofiad hedfan gwahanol" a'r awyrennau wedi gadael Canolfan y Llu Awyr ym Mro Morgannwg tua 20 milltir i ffwrdd o safle'r ddamwain.

Andrew Marsh a Hylton Price
Roedd Andrew Marsh a Hylton Price yn hyfforddi'r merched

Roedd y daith yn un gyffredin ac i fod i bara rhyw 20 munud.

Wrth gofnodi'r rheithfarn, dywedodd y crwner ei fod yn credu bod y Llu Awyr wedi gwneud popeth posib i sicrhau diogelwch y peilotiaid a'r cadetiaid ar y daith.

Mae dau ymchwiliad i'r ddamwain wedi eu cynnal a dau adroddiad wedi eu cyhoeddi.

Fe gyfeiriodd Mr Maddox at argymhellion y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ystod ymchwiliad i'r ddamwain - y dylai system rybuddio gael ei gosod mewn awyrennau sy'n cynnig hyfforddiant.

Ffrwydro

Dywedodd yr Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr fod awyrennau hyfforddi Grob yn anodd eu gweld ac y gallai strwythur canopi'r awyren fod wedi ychwanegu at y broblem.

Roedd bron 30 o argymhellion yn adroddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Wedi'r cwest fe ddywedodd ewythr Nikkita, Michael Walters, nad oedd yn beio'r Llu Awyr a'i fod yn credu mai rheoliadau'r DU oedd wedi sicrhau mai hedfan oedd "y ffordd fwya' diogel o deithio".

Ychwanegodd nad oedd am "i'r un peth ddigwydd i' unrhyw deulu arall".

Yn ôl llygad-dystion, roedd gwrthdrawiad rhwng y ddwy awyren cyn iddyn nhw ffrwydro yn yr awyr a syrthio i'r ddaear.



HEFYD
'Dau beilot heb weld ei gilydd'
03 Tach 10 |  Newyddion
Argymhellion wedi damwain awyr
07 Ion 10 |  Newyddion
Angladd cadet awyr
05 Maw 09 |  Newyddion
Angladdau peilot a chadet awyr
03 Maw 09 |  Newyddion
Teyrnged yr awyrlu i beilot
26 Chwef 09 |  Newyddion
Munud union oedd rhwng dwy awyren
19 Chwef 09 |  Newyddion
Damwain: Enwi'r meirw
12 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific