British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 15 Ionawr 2011, 15:48 GMT
Gm yr Urdd yn Abertawe

Cefongwyr Abertawe a'r Urdd

Fe gafodd un o dimau pêl-droed Lloegr wybod tipyn mwy am Eisteddfod yr Urdd wrth ymweld ag Abertawe dros y penwythnos.

Cafodd y gêm rhwng tîm Yr Elyrch a thîm Crystal Palace ddydd Sadwrn ei chlustnodi fel Gem yr Urdd.

Cafodd 1,7600 o docynnau eu gwerthu i gefnogwyr Eisteddfod yr Urdd i weld y ddau dîm yn chwarae yn Stadiwm Liberty.

Codi ymwybyddiaeth o'r Urdd ac o ymweliad Eisteddfod yr Urdd ag Abertawe oedd bwriad y digwyddiad.

Fe fydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn y ddinas ar ddiwedd mis Mai eleni.

Roedd yn gyfle i gefnogwyr pêl-droed a chefnogwyr Yr Urdd fwynhau gêm yng nghwmni Mistar Urdd a Cyril the Swan.

Apêl leol

Mae'r ddau wedi bod ar daith ddiweddar o amgylch ysgolion y ddinas.

Bu cefnogwyr yr Urdd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ciciau o'r smotyn ynghyd â Mistar Urdd a Cyril the Swan cyn y gêm, gyda'r enillydd yn cael bod yn fascot am y prynhawn,

Bu'r cefnogwyr yn manteisio ar gynnig arbennig ar docynnau i'r gêm gydag oedolion yn talu £10 yn unig am docyn ac yn cael dod â hyd at bedwar plentyn gyda hwy i fwynhau'r achlysur.

Mae cyfraniad o'r tocynnau yn mynd tuag at apêl leol yr eisteddfod.

"Rydym yn falch iawn fod cynifer o'n cefnogwyr wedi dod i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn i fod yn rhan o'r digwyddiad unigryw hwn," meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

"Mae'r gêm wedi bod yn gyfle gwych i ni godi arian at yr Eisteddfod ac rydym yn ddiolchgar dros ben i Glwb Pêl Droed Dinas Abertawe am eu cefnogaeth."

Dywed Andrea Morris, Rheolwr Masnachol, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, eu bod fel clwb yn falch iawn o'r cysylltiadau gyda'r gymuned.

"Mae Gêm yr Urdd yn enghraifft arall o'r ffordd yr ydym yn cydweithio'n agos gyda mudiadau cymunedol.

Yn goron ar y cyfan oedd y ffaith i Abertawe ennill y gêm o dair gôl i ddim.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific