British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 11 Ionawr 2011, 17:46 GMT
Pryder na fydd ymgyrch Na swyddogol yn y refferendwm

Carwyn Jones yn lansiad ymgyrch Ie ar Ionawr 4 2011
Dywedodd Carwyn Jones bod rheolau 'rhyfedd' i'r refferendwm o ran arian

Mae Prif Weinidog Cymru wedi honni bod 'na "berygl gwirioneddol" o beidio â chael ymgyrch Na drefnus cyn refferendwm mwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Os yw hyn yn wir, meddai Carwyn Jones, yna fyddai dim modd ariannu ymgyrch Ie o'r pwrs cyhoeddus.

Fe wnaeth yr ymgyrch Ie lansio'n swyddogol ar Ionawr 4 ac mae disgwyl i Gwir Gymru lansio eu hymgyrch Na yr wythnos nesaf.

Fe fydd y refferendwm yn cael ei gynnal ar Fawrth 3.

Mae Gwir Gymru wedi dweud y byddan nhw'n cynnal ymgyrch gref ar lawr gwlad yn erbyn rhoi mwy o rym deddfu i'r cynulliad.

Rheolau

Y Comisiwn Etholiadol fydd yn penderfynu ar ymgyrchoedd swyddogol Ie a Na.

Ond mae'n rhaid i'r ymgyrchoedd basio cyfres o brofion cyn cyrraedd y statws a chael hawl i £70,000 i drefnu'r ymgyrchoedd.

O dan y rheolau, mae'n rhaid i'r comisiwn ddynodi ymgyrch swyddogol i'r ddwy ochr, neu ddim o gwbl.

Wrth gael ei holi yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yn Y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones ei fod yn credu bod lle i bryderu na fydd 'na ymgyrch Na cyfansoddiadol cywir.

"Mae hyn wrth gwrs yn golygu na fydd modd cael ymgyrch Ie swyddogol o dan y rheolaeth ryfedd yma ar gyfer y refferendwm.

"A be ddylai'r ymateb i hyn fod? Dwi'n credu bod hi'n bwysig bod ymgyrch yr holl bleidiau sydd o blaid yn gryf, bod cymaint o wirfoddolwyr â phosib a bod cymaint o roddwyr â phosib.

"Ddylai neb gredu bod 'na lif di-dor o arian ar gael ar gyfer yr ymgyrch Ie."

Gwrthwynebu

Roedd Mr Jones yn ymateb i gwestiwn gan AC Plaid Cymru, Helen Mary Jones, a ddywedodd y byddai etholwyr Cymru ar eu colled, ddim yn cael digon o wybodaeth cyn pleidleisio, heb ymgyrchoedd swyddogol Ie a Na.

Mewn ymateb dywedodd Len Gibbs, o Gwir Gymru eu bod wedi cyfarfod gyda'r Comisiwn Etholiadol ym mis Rhagfyr a ddydd Llun.

"Dydi Gwir Gymru ddim yn poeni am yr hyn mae Carwyn Jones na neb arall yn ei feddwl gan fod gennym bolisi sy'n cael ei weithredu.

"Mae Gwir Gymru wedi bod yn ymgyrchu am ddwy flynedd a hanner ac wedi ennyn cefnogaeth gan bobl o bob rhan o Gymru bob dydd.

"Ddylai Helen Mary Jones ddim pryderu am ddiffyg gwybodaeth i'r pleidleiswyr gan fod gwybodaeth ac erthyglau newydd bob dydd ar ein gwefan."



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific