Mae yna ymrwymiad i ddarparu Pobol y Cwm mewn clirlun erbyn 2011
|
Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, wedi gwadu bod Llywodraeth San Steffan wedi gorfodi'r gorfforaeth i ariannu S4C yn y dyfodol. Dywedodd wrth y Pwyllgor Materion Cymreig sy'n ymchwilio i ddyfodol S4C mai "cytundeb yn hytrach na gorfodaeth oedd hyn" a bod annibyniaeth S4C yn rhan ganolog o'r cytundeb. Wrth roi tystiolaeth gerbron Aelodau Seneddol dywedodd y byddai craffu manwl ar faint o arian y drwydded deledu fydd yn cael ei wario ar S4C. Ym mis Hydref cyhoeddodd y llywodraeth mai'r BBC fyddai'n bennaf gyfrifol am gyllido S4C ar ôl 2015. Roedd ffrae wleidyddol wrth i arweinwyr pedair prif blaid Cymru ysgrifennu at y Prif Weinidog, David Cameron, yn gofyn am adolygiad annibynnol o ddyfodol S4C. O ran ariannu S4C dywedodd Mr Thompson y byddai'r gorfforaeth yn dilyn strategaeth debyg i'r un bresennol, "edrych ar gyfnod o flynyddoedd yn lle trefnu cyllid blynyddol." 'Arbedion' Yr her i S4C, meddai, "yw defnyddio'r adnoddau sydd ar gael a rhoi y gwerth am arian gorau i'r gynulleidfa." Wrth ymateb i bryder rhai Aelodau Seneddol ynglŷn â chyllid S4C, dywedodd Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, fod pob darlledwr yn "wynebu cyfnod o arbedion". Ynghynt ddydd Mawrth cyhoeddodd y BBC fanylion am gytundeb fyddai'n golygu y bydd holl raglenni'r BBC ar gyfer S4C ar gael ar wasanaeth iPlayer y BBC cyn bo hir. Mae'r datblygiad yn rhan o gytundeb rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Cyfeirio y mae'r cytundeb at ddyletswydd statudol y BBC i ddarparu o leiaf 10 awr o raglenni'r wythnos i S4C (520 awr dros y flwyddyn) wedi eu cyllido o ffi'r drwydded. Mae'r cytundeb yn golygu y bydd Pobol y Cwm mewn clirlun erbyn diwedd 2011. Ymhlith y newidiadau eraill mae sefydlu Cyd-Fwrdd Adolygu Newyddion fydd yn trafod perfformiad a datblygiad strategol gwasanaeth Newyddion y BBC ar S4C. Bydd brandio'r holl raglenni a ddarperir gan y BBC yn cael ei wella fel y bydd hi'n haws i'r sawl sy'n talu ffi'r drwydded wybod pa raglenni sy'n cael eu cyllido o ffi'r drwydded. £19.4 miliwn Mae'r cytundeb hefyd yn cadarnhau llai o gyllid ar gyfer y 10 awr o raglenni wythnosol, o £23.5 miliwn yn 2010-11 i £19.4 miliwn yn 2012-13. Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C gymeradwyodd y cytundeb ym mis Rhagfyr 2010. Daw i rym ar unwaith gan ddisodli'r cytundeb rhwng 2007 a 2009. Dywedodd Syr Michael Lyons, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC: "Mae'r bartneriaeth ddiwygiedig hon yn adeiladu ar ein perthynas gref ag S4C ac mae'n sail i ymrwymiad hirsefydlog y BBC at ddarlledu yn yr iaith Gymraeg."
Syr Michael Lyons: Y bartneriaeth yn sail "i ymrwymiad hirsefydlog y BBC at ddarlledu yn yr iaith Gymraeg."
|
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru: "Mae'r cytundeb hwn yn rhoi sicrwydd o gyllid y BBC tuag at gynhyrchu rhaglenni dros y ddwy flynedd nesaf, gan ddarparu cynnwys a werthfawrogir gan gynulleidfaoedd Cymraeg. "Bydd yn mynd â ni at 2013 pan fydd y trefniadau newydd a amlinellwyd yn y setliad diweddar ar ffi'r drwydded yn cael eu cyflwyno. "Ar hyn o bryd mae'r trefniadau hyn yn destun trafod rhwng yr ymddiriedolaeth, S4C a'r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon." Mae Rheon Tomos, Is-Gadeirydd Awdurdod S4C, wedi dweud: "Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â'r BBC a bydd y darpariaethau newydd yn y cytundeb yn ein helpu i feithrin y berthynas glòs sydd eisoes yn bodoli rhyngon ni. "Mae ein gwylwyr yn dweud wrthym fod darparu rhaglenni o safon yn rhoi S4C wrth galon diwylliant Cymru ac mae'n hanfodol cynnal yr iaith Gymraeg. "Bydd ein cytundeb â'r BBC yn hollbwysig wrth i ni gyflawni'r amcanion hyn."
|