British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Ionawr 2011, 06:39 GMT
Cais i ehangu amlosgfa

Arch
Bydd modd parhau gyda gwasanaethau angladdol tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau.

Bydd cynghorwyr yn ystyried cynlluniau i ehangu amlosgfa Bae Colwyn ac ail gynnal gwasanaethau yn yr hen gapel sy'n stordy ar hyn o bryd.

Mae swyddogion cynllunio Cyngor Sir Conwy yn argymell y dylid derbyn y cais cynllunio ar gyfer y safle ar gyrion pentre' Mochdre.

Yn ôl y cais byddai rhan o'r adeilad yn cael ei ddymchwel a byddai adeilad un llawr yn cael ei godi yn ei le.

Y cyngor sir sy'n gwneud y cais cynllunio.

Byddai'r offer amlosgi yn cael eu cadw yn yr adeilad newydd.

Yn ôl y cais byddai'r amlosgfa yn parhau i gynnal gwasanaethau angladdol tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau.

Bydd y pwyllgor cynllunio hefyd yn ystyried cais i adnewyddu'r hen gapel, sy'n cael ei ddefnyddio fel stordy, gan ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau.

Dywed y Cyngor y bydd hyn yn caniatáu cynulleidfa o fyw o faint.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific