British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 10 Ionawr 2011, 18:01 GMT
Cais i newid y drefn gofrestru

Cerdyn rhoddwr
Newidiadau: Organau yn cael eu cymryd yn awtomatig?

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi ei chais am bwerau fyddai'n caniatáu newid y drefn gofrestru ar gyfer rhoi organau.

Gallai trefn newydd olygu fod organau yn cael eu cymryd yn awtomatig - oni bai bod yr unigolyn yn cofrestru nad hwn yw ei ddymuniad.

Byddai gan berthynas agos dal yr hawl i wrthod caniatâd.

Mae gofyn hefyd i'r awdurdodau meddygol allu cadarnhau cyfeiriad y sawl sy wedi marw.

Eisoes mae system o'r fath yn cael ei weithredu ym Mhortiwgal a gwlad Belg.

Bydd y Gorchymyn a gyhoeddwyd ddydd Llun nawr yn cael ei archwilio gan aelodau cynulliad ac aelodau seneddol a fydd wedyn yn pleidleisio i benderfynu a ddylid datganoli'r cyfrifoldeb.

Mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yn amcangyfrif bod 30 o bobl yn marw mewn blwyddyn wrth aros am drawsblaniad organ yng Nghymru.

Mae'r Gweinidog Iechyd Edwina Hart eisoes wedi rhoi gwybod ei bod hi yn bersonol o blaid system o ganiatâd tebygol.

"Ond rwy'n derbyn fod hwn yn bwnc sensitif ac emosiynol", meddai.



HEFYD
Organau: Newid y drefn bresennol?
19 Medi 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific