British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 10 Ionawr 2011, 08:37 GMT
Elusen adar yn dathlu'r 100

Barcud Coch
Y barcud coch yw un o rywogaethau enwocaf Cymru

Mae'r elusen gwarchod adar, RSPB Cymru, yn dathlu eu canmlwyddiant yr wythnos hon.

Dywed yr elusen eu bod wedi cymryd camau breision ers 1911, gan gynorthwyo i achub rhywogaethau pwysig fel y barcud coch a'r grugiar ddu.

Er mwyn nodi'r garreg filltir, mae'r elusen wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cydweithio'n agos gyda mudiad y Girl Guides yng Nghymru dros y flwyddyn i ddod.

Y gobaith yw y bydd y bartneriaeth yn cadarnhau'r ymdrech i warchod adar yng Nghymru.

'Addysgol'

Grugiar ddu
Mae'r grugiar ddu yn un o nifer o rywogaethau sy'n cael eu gwarchod yng Nghymru

Mae'r RSPB bellach yn rheoli 18 o warchodfeydd natur, yn cyflogi 150 o staff ac yn gweithio gydag 800 o wirfoddolwyr ar draws y wlad.

Mae'r gwarchodfeydd yn aml yn cynnig profiadau addysgol i bron 10,000 o blant bob blwyddyn, ac fe fydd pob un o'r Geidiau yn cael gwahoddiad i dreulio diwrnod yn dysgu am fyd natur ac yn gwneud gweithgareddau gyda'r mudiad.

Bydd y Geidiau hefyd yn cynorthwyo i gynnal archwiliad o adar ar draws Cymru drwy fod yn rhan o'r Big Garden Birdwatch, ynghyd â chynlluniau gwirfoddol eraill.

'Gwahaniaeth'

Dywedodd cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton:

"Gyda'r nifer cynyddol o warchodfeydd sydd gennym, gallwn gynorthwyo mwy a mwy o bobl i fwynhau bywyd gwyllt Cymru drwy roi profiadau gwerthfawr iddyn nhw.

"Mae'r canmlwyddiant yn rhywbeth i ni ddathlu go iawn, gan ei fod yn nodi nifer o gerrig milltir gwarchod yng Nghymru ac yn dangos y gwahaniaeth yr ydym wedi ei wneud."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific