British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 10 Ionawr 2011, 07:35 GMT
100 mewn protest am S4C

Jill Evans ASE
Eisoes mae Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans, wedi dweud na fydd yn talu'r drwydded fel arwydd o brotest

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi bod 100 person eisoes wedi ymrwymo i wrthod talu am eu trwydded deledu mewn protest yn erbyn y bygythiadau i S4C.

Lansiodd y Gymdeithas ei hymgyrch fis diwethaf ac, yn ôl y mudiad, o fewn pedwar diwrnod roedd y cant cyntaf wedi ymrwymo.

Ymysg y bobl sydd wedi datgan eu bwriad i wrthod talu eu trwydded deledu mae'r cantorion Dafydd Iwan, Bryn Fôn a Gai Toms a'r academydd Dr Simon Brooks.

'Argyfyngus'

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae dyfodol ein hunig sianel teledu Cymraeg yn y fantol.

"Mae'n wynebu toriadau i'w chyllid o dros 40% mewn termau real; cael ei thraflyncu gan y BBC; a bod grymoedd yn nwylo Gweinidogion San Steffan i gael gwared a hi yn llwyr.

"Mae'r sefyllfa yn argyfyngus; dyna pam rydym yn falch bod cymaint o unigolion wedi dechrau datgan eu bod nhw'n bwriadu peidio â thalu'r drwydded deledu.

"Mae'r llywodraeth yn arbed 94% o'r arian oedden nhw'n arfer talu i'r sianel, toriad sydd yn gwbl annheg.

"Mae hi'n frwydr y gallwn ni ennill, ac rydym yn ffyddiog oherwydd bod cefnogaeth y cyhoedd yn codi yn ddyddiol.

"Rydym yn awr yn gwybod, o bapurau cabinet Thatcher, yr oedd safiad Gwynfor Evans yn hanfodol yn y ffordd y gwnaeth e newid safbwynt y llywodraeth, mae'r bobl sydd yn gwrthod talu'r drwydded deledu heddiw yn dilyn yn yr un traddodiad o weithredu'n uniongyrchol ddi-drais."

Cyfarfodydd

Fe fydd y mudiad yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ar draws Cymru o fis Ionawr i fis Mawrth o dan yr enw 'S4C a'r Dyfodol' er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r bygythiadau i'r sianel a thrafod y ffordd ymlaen.

Mae'r newyddion yn dod yn dilyn adroddiad gan bwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan sydd yn beirniadu yn hallt y Mesur Cyrff Cyhoeddus a fyddai'n awdurdodi gweinidogion Llywodraeth Prydain i ddiddymu S4C yn ogystal â nifer o gyrff eraill.

Ychwanegodd Bethan Williams:

"Roedd gwleidyddion y blaid geidwadol wedi bod yn addo cyn yr etholiad y byddai'r sianel yn saff yn eu dwylo nhw, roedden nhw'n ceisio camarwain y cyhoedd.

"Pwy sydd yn ffrind i ddarlledu Cymraeg fyddai'n cyflwyno Mesur a fyddai'n caniatáu toriadau di-baid i'r sianel a chael gwared arni yn llwyr?"

Fe fydd y bobl sydd yn gwrthod talu'r drwydded deledu yn gwneud hynny hyd nes bod y Llywodraeth yn sicrhau annibyniaeth y sianel a chyllid digonol i redeg y gwasanaeth angenrheidiol i bobl Cymru.



HEFYD
Llywydd yn gwrthod talu'r drwydded
02 Rhag 10 |  Newyddion
O blaid gwrthod talu'r drwydded
30 Hyd 10 |  Newyddion
'Pwysig i S4C fod yn annibynnol'
19 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific