British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Ionawr 2011, 16:49 GMT
Cwmni Admiral: Pencadlys newydd

Swyddfa Admiral, Abertawe
Mae'r cwmni yn cyflogi tua 3,000 yn ne Cymru

Mae cwmni yswiriant Admiral wedi datgelu eu cynlluniau ar gyfer pencadlys newydd yng Nghaerdydd.

Bydd tua 1,800, sy'n gweithio mewn tri safle gwahanol yn y ddinas, yn symud i'r adeilad newydd ar safle maes parcio ger canolfan siopa Dewi Sant.

Mae disgwyl i'r pencadlys newydd, fydd a lle ar gyfer 3,000, gael ei gwblhau erbyn 2014.

Mae'r cwmni hefyd mewn trafodaethau ynghylch datblygiad mawr ar safle ar gyrion Abertawe.

Ar hyn o bryd mae'r cwmni yn cyflogi tua 1,400 yn ardal Abertawe, ond y nod yw codi adeilad fydda'i addas ar gyfer 1,700 pe bai angen.

Mae'r cwmni yn berchen ar fusnesau yswiriant sy'n cynnwys confused.com, Diamond ac elephant.co.uk.

Cwmni Admiral ydi'r unig gwmni o Gymru sydd ym Mynegai Can Cwmni'r FT.



HEFYD
Yswiriant: 119 o swyddi
18 Chwef 09 |  Newyddion
£39,000 i weithwyr Admiral
23 Medi 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific