Bydd 25% yn llai o lefydd ar gael i fyfyrwyr yn ysgol gelf y brifysgol
|
Mae disgwyl i aelodau o staff golli eu swyddi a chyrsiau gael eu dileu yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC). Bydd 35 o swyddi yn cael eu colli yn ysgol gelf yr athrofa, a bydd "gostyngiad sylweddol" yn nifer y myfyrwyr. Mewn cyfarfod fore Gwener fe benderfynwyd dileu pedwar cwrs, sef Pensaernïaeth Mewnol, BA Cymdeithaseg a Throseddeg, y BSc yn Nhechnoleg Cerddoriaeth a'r BA Astudiaethau Cyfryngol. Mae dogfen fewnol a welwyd gan BBC Cymru yn awgrymu y bydd 25% yn llai o leoedd ar gael i fyfyrwyr yn ysgol gelf y brifysgol yn y dyfodol. Dywedodd Russell Smith ar ran yr Undeb Prifysgol a Choleg: "Dydyn ni ddim eisiau gweld diswyddiadau. "Ry' ni'n credu y gallan nhw gwtogi wrth beidio ail benodi wrth i bobl adael a thrwy gynnig diswyddiadau gwirfoddol". Toriadau Dywedodd yr athrofa ei bod yn ymateb i doriadau yn ei chyllideb ac i ddymuniad Llywodraeth y Cynulliad i leihau cystadleuaeth ranbarthol rhwng prifysgolion, ond maen nhw'n mynnu na fydd myfyrwyr presennol yn cael eu heffeithio. Y llynedd dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews y byddai Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn dyfeisio ffordd newydd o ariannu ymchwil o 2011/12 ymlaen a fydd yn cefnogi ffocws gwell ar flaenoriaethau cenedlaethol. Dywedodd Mr Andrews y byddai'r newidiadau yn rhyddhau cyllid i gael ei gyfeirio yn fwy penodol i gwrdd â blaenoriaethau'r llywodraeth a datblygu economaidd. "Mae Cymru wedi cael ei llesteirio am flynyddoedd gan nifer o sefydliadau sy'n rhy fach i wneud argraff yn rhyngwladol, rhy fach i wrthsefyll y gystadleuaeth ryngwladol sy'n cynyddu, ac mewn perygl o wastraffu adnoddau yn cystadlu gyda chymdogion yn hytrach nag ennill enw da ac incwm trwy ymchwil", meddai.
|