British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Ionawr 2011, 16:12 GMT
Creu undeb credyd mwyaf Cymru

Ffurflen
Undeb newydd: 'Mwy o wasanaethau'

Mae undeb credyd mwyaf Cymru wedi cael ei greu wrth i bump o undebau llai gyfuno yn y gogledd.

Hwn fydd yr undeb mwyaf yn ddaearyddol ac o ran aelodau ond fe fydd y swyddfeydd presennol yn cael eu defnyddio.

Y canlynol sy'n cyfuno i greu Undeb Credyd Gogledd Cymru:

• Undeb Credyd Caledfryn, Dinbych;

• Undeb Credyd Arfordir Clwyd, Y Rhyl;

• Undeb Credyd Llandudno a'r Cyffiniau, Cyffordd Llandudno;

• Undeb Credyd Wrecsam;

• Undeb Credyd Y Llechen, Caernarfon.

Cyfrif cyfredol

Dywedodd yr undeb y byddai rhannu adnoddau'n golygu mwy o ddiogelwch swyddi a'r gallu i gynnig mwy o wasanaethau.

Y newid pennaf fydd Cyfrif Cyfredol Undeb Credyd - gwasanaeth a ddatblygwyd yng Nghonwy yn ystod 2010 - sy'n cynnig yr un gwasanaethau a chyfrif banc arferol.

Mae'r rhain yn cynnwys cerdyn debyd, talu cyflogau i mewn i'r cyfrif a sefydlu systemau talu debyd uniongyrchol sy'n gallu arbed arian.

Benthyciadau llog isel fydd "asgwrn cefn" y mudiad newydd ond bydd mwy o arian wrth gefn yn gallu arwain at gynnig benthyciadau mwy.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific