British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Ionawr 2011, 14:25 GMT
Twyll: Cydlynydd gerbron llys

Miriam Beard
Miriam Beard oedd cydlynydd cynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc

Mae cydlynydd cynllun adfywio un o stadau tai mwyaf difreintiedig Cymru wedi bod yn y llys ar gyhuddiad o dwyll.

Cafodd Miriam Beard o Henllan ger Dinbych ei chyhuddo o ddargyfeirio mwy na £50,000 o arian y cynllun iddi hi ei hun neu ei mab.

Roedd yn wynebu 13 o gyhuddiadau o dwyllo neu ddwyn gerbron ynadon Wrecsam oedd yn cynnal yr achos yn Yr Wyddgrug.

Cytunodd yr ynadon y dylai Llys y Goron gynnal achos ym mis Chwefror.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Camddefnydd

Hi oedd cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc, Wrecsam - cynllun oedd yn derbyn £750,000 y flwyddyn gan Lywodraeth y Cynulliad.

Cafodd ei chyhuddo o gamddefnyddio'i swydd fyn Ebrill 2008 - swydd lle oedd disgwyl iddi ofalu am gyllid y cynllun - gyda'r bwriad o wneud elw o £11,200 i'w hun.

Honnir hefyd iddi dwyllo er mwyn cael cyfanswm o £16,324 i'w hunan rhwng Tachwedd 2008 a Mehefin 2009, ac o dwyllo er mwyn cael cyfanswm o £25,600 i'w mab Darrell Kelly rhwng Chwefror 2007 a Rhagfyr 2009.

Cafodd ei chyhuddo o ddwyn peiriant torri gwair gwerth £1,500 yr oedd y cynllun yn berchen arno, ac o dwyllo er mwyn elw ariannol drwy roi gwybodaeth ffug - manylion addysgol a dyddiad geni ffug wrth ymgeisio am y swydd.

Mechnïaeth

Roedd ei gŵr James Beard, 46 oed, a'i mab 35 oed o Fanceinion gerbron llys ddydd Gwener, Rhagfyr 31, 2010.

Mae ei gŵr yn wynebu chwe chyhuddiad o dwyll a dau o ddwyn, tra bod ei mab yn wynebu cyhuddiadau o dwyll, derbyn eiddo oedd wedi ei ddwyn ac o brosesu arian yn anghyfreithlon.

Fe fydd y tri yn Llys y Goron ym mis Chwefror.

Cafodd hi ei rhyddhau ar fechnïaeth ar yr amod nad yw'n cyfathrebu mewn unrhyw fodd â staff cynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc.



HEFYD
Cynllun adfywio: Dau yn y llys
31 Rhag 10 |  Newyddion
Cyhuddo menyw o dwyll a lladrata
22 Rhag 10 |  Newyddion
Diswyddo wedi ymchwiliad mewnol
14 Rhag 10 |  Newyddion
Partneriaeth: Galw am ymchwiliad
18 Maw 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific