British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Ionawr 2011, 08:05 GMT
Caniatād i godi ysgol Gymraeg newydd yn Wrecsam

Safle'r ysgol newydd
Mae rhai o'r trigolion lleol yn anhapus gyda'r lleoliad

Mae caniatâd amlinellol wedi ei roi i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Wrecsam.

Dywed swyddogion addysg fod angen codi ysgol newydd yng ngogledd y dref er mwyn ymateb i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg.

Roedd rhai pentrefwyr yng Ngwersyllt wedi gwrthwynebu'r cais i godi'r ysgol ar dir gwyrdd Parc Gwledig Dyfroedd Alun.

Bydd swyddogion nawr yn cyflwyno cais cynllunio mwy manwl ar gyfer adeilad gwerth £5.9 miliwn.

Yn y pen draw bydd angen caniatâd Llywodraeth y Cynulliad cyn codi'r ysgol newydd ar gyfer 210 o ddisgyblion.

Bwriad y cyngor yw ei hagor o fewn tair blynedd.

Mae'r cais yn cynnwys dau gae chwarae fydd hefyd yn cael eu defnyddio gan y gymuned leol.

Mae gwrthwynebwyr yn ofni bod y buddsoddiad mewn addysg Gymraeg ar draul gwella adeiladau ac adnoddau ysgolion cyfrwng Saesneg Gwersyllt.

Roedd rhai wedi dadlau y dylid ehangu un o ysgolion presennol Gwersyllt a chynnig ffrwd Gymraeg.



HEFYD
Cais i godi ysgol Gymraeg newydd
04 Ion 11 |  Newyddion
'Anfodlon am safle ysgol'
22 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific