Mae nifer o ffyrdd Cymru mewn cyflwr gwael
|
Mae mudiad moduro yn dweud bod gyrwyr Cymru'n fwy tebygol o gael problemau na rhai Lloegr - oherwydd tyllau yn y ffyrdd. Yn ôl Sefydliad yr Uwch Fodurwyr, mae gyrwyr Cymru yn dibynnu'n drwm ar briffyrdd neu ffyrdd A sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan awdurdodau lleol. Wrth i gynghorau wynebu toriadau yn eu cyllidebau, fe allai mwy o ffyrdd fod mewn cyflwr gwael, meddai'r mudiad. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y £7 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth y Cynulliad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr yn help. Yn Lloegr mae'r priffyrdd neu'r ffyrdd A yn tueddu i fod yn ffyrdd deuol ac yn cael eu cynnal a'u cadw gan Asiantaeth y Prif-ffyrdd. Mwy o dyllau O ganlyniad i dywydd oer a chaled ers wythnosau mae mwy a mwy o dyllau wedi bod mewn ffyrdd. Mae'r rhain yn ychwanegol at y rhai ddaeth i'r amlwg ar ôl tywydd oer dechrau 2010 sydd newydd gael eu llenwi.
"Mae'r mwyafrif o yrwyr yn mynd i wynebu problemau oherwydd tyllau yn ystod eu taith ddyddiol yng Nghymru," yn ôl Tim Shallcross, llefarydd y mudiad yng Nghymru. "Ac mae mwy o ffyrdd yng Nghymru yn sengl ac o dan reolaeth yr awdurdodau lleol. "Os nad yw ffordd yn cael y gofal cywir yna dyw hi ddim yn gallu dal dŵr. "Os nad yw'n dal dŵr, mae'r dŵr yn llifo i'r craciau, yn rhewi mewn tywydd oer ac yn achosi mwy o graciau a thyllau." Dywedodd fod angen gwaith trylwyr yn hytrach nag atebion dros dro. "Fe fuddsoddodd Cyngor Casnewydd rai blynyddoedd yn ôl mewn gwaith o'r fath ac mae wedi talu ar ei ganfed oherwydd y cyngor oedd yr un gorau yn arolwg ffyrdd gorau'r DU. "Fy nghyngor i yrwyr yw bod yn ymwybodol o'r tyllau a bod yn ofalus mewn tywydd gwlyb wrth yrru dros bwll gan y gallai fod yn dwll dwfn iawn. "Mae gyrru drwy dyllau yn effeithio'n andwyol ar y system tracio a llywio allai effeithio ar y teiars." £6m Dywedodd ei fod yn croesawu'r cyhoeddiad y byddai'r cynghorau yn cael arian ychwanegol i'w wario ar y ffyrdd. Mae'r cyhoeddiad hefyd wedi ei groesawu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. "Ers blynyddoedd mae'r tywydd gwael wedi effeithio'n fawr ar gyflwr ffyrdd yng Nghymru sy'n arwain at gostau ychwanegol i'r cynghorau," meddai Tim Peppin, cyfarwyddwr amgylchedd y mudiad. "Fe fydd yr arian ychwanegol ar gyfer gwaith brys ac yn lleddfu'r baich ar yr awdurdodau." Daeth yr arian ychwanegol ar ôl i'r llywodraeth gyhoeddi y byddai'r gyllideb cynnal a chadw ffyrdd yn gostwng o £68 miliwn y flwyddyn i £6 miliwn erbyn 2013-14. Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, ei fod yn ymwybodol o'r pwysau ar gynghorau ar ôl y tywydd difrifol. Mae angen gwario'r arian erbyn mis Ebrill.
|