British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Ionawr 2011, 07:29 GMT
O Lanelwy i Afghanistan

Wootton Bassett
Eirch milwyr Prydain fu farw yn Afghanistan yn cael eu cludo drwy strydoedd Wootton Bassett

Mae dyn busnes o Sir y Fflint yn trefnu cyngerdd yn Llanelwy i geisio codi £20,000 i brynu offer meddygol ar gyfer milwyr sydd wedi eu hanafu yn Afghanistan.

Mae Esmor Davies, 65 oed o Fwcle, yn bwriadu rhoi'r offer meddygol i un ai Llys Hedley neu ysbyty Birmingham.

Roedd Mr Davies eisoes wedi trefnu dau gyngerdd tebyg yn Wootton Bassett yn Sir Wiltshire y llynedd i ddiolch i'r bobl leol am anrhydeddu milwyr a laddwyd ar faes y gad.

Bryd hynny dywedodd Mr Davies: "Fel Cymro rwyf eisiau diolch i'r bobl sy'n sefyll ar y stryd am chwe neu saith awr ar y tro wrth i gyrff y milwyr gael eu dychwelyd adre'.

Roedd y ddau gyngerdd am ddim, gyda chasgliad ar gyfer elusennau Help for Heroes a'r Lleng Brydeinig.

Esmor Davies
Rwy'n meddwl am y bobl sy'n dal i fod â meibion (yn Afghanistan) sydd ar bigau'r drain yn meddwl pryd fydd yr alwad ffôn nesa'n dod
Esmor Davies

Penderfynodd drefnu'r cyngherddau ar ôl gwylio eirch milwyr Prydain yn cael eu cludo drwy strydoedd Wootton Bassett ar y teledu.

Dywedodd: "Mae gen i fab, ond 'does gen i neb yn y fyddin.

"Rwy'n meddwl am y bobl sy'n dal i fod â meibion (yn Afghanistan) sydd ar bigau'r drain yn meddwl pryd fydd yr alwad ffôn nesa'n dod."

Artistiaid

Y llynedd fe dalodd Mr Davies £6,500 i Gôr y Gogledd gael aros dros nos ger Wootton Bassett.

Ymhlith y perfformwyr eraill y llynedd 'roedd y gantores 13 oed, Lucy Kelly, y tenor Aled Wyn Davies, cyn gyfarwyddwr cerdd Côr y Fron, Ann Atkinson, ac Elin Mair o Gaernarfon.

Bydd y cyngerdd yn Llanelwy ar Chwefror 12 yn cynnwys yr un artistiaid.



HEFYD
Apl i godi ysgol yn Sri Lanka
11 Maw 05 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific