British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Ionawr 2011, 13:58 GMT
Cyhoeddi 250,000 ar gyfer castell Aberteifi

Tŷ Gwyrdd Castell Aberteifi
Cafodd y Tŷ Gwyrdd ei adeiladu ym 1827

Yn Aberteifi ddydd Mawrth cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai Castell Aberteifi yn derbyn grant gwerth £250,000 gan Cadw.

Mae'r arian wedi ei neilltuo ar gyfer y Tŷ Gwyrdd, Bwthyn y Garddwr a rhif 43 Stryd y Santes Fair yn Aberteifi, y tri adeilad yn rhan bwysig o dirlun Castell Aberteifi.

Arian i adnewyddu castell

Bydd y grant dros dair blynedd yn cael ei ddefnyddio i atgyweirio'r adeiladau fel eu bod yn addas i'w defnyddio fel adnodd i'r gymuned.

Bu Mr Jones yn cwrdd ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, cwmni elusennol sy'n ceisio achub Castell Aberteifi a'i adeiladau cysylltiedig.

Mae'r castell eisoes wedi sicrhau £295,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae'r ymddiriedolaeth wedi gwneud cais ar gyfer grant pellach o £4.5 miliwn.

Fe fydd penderfyniad ym mis Mawrth.

GRANTIAU CADW
£250,000 - Castell Aberteifi
£60,000 - Canolfan Parc Hilston, Sir Fynwy
£42,500 - Tŷ Mostyn, Dinbych
£40,000 - Eglwys Babyddol San Pedr, Caerdydd
£35,000 - Amgueddfa Pontypridd, Rhondda Cynon Taf
£34,000 - Y Deml Forol, Trefynwy
£32,000 - Cadeirlan Tŷ Ddewi, Sir Benfro
£26,000 - Coleg yr Iesu, Aberhonddu
£23,000 - Grove Place, Dinbych
£16,500 - Ffrwd yr Hebog, Llanfachraeth, Ynys Môn
£7,500 - 6 Parade Street, Llangollen
£3,900 - Parc Gwledig Craig-y-nos, Tawe Uchaf

Bydd cyfanswm o £570,400 o grantiau Cadw yn cael eu rhannu rhwng 12 o adeiladau hanesyddol pwysicaf Cymru.

Yng Nghastell Aberteifi y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ym 1176.

'Gwaith caled'

Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n hapus iawn i gynnig yr arian i Ymddiriedolaeth Cadwgan ac yn gobeithio'n arw y bydd yn helpu i gyrraedd y rownd nesa' o ariannu.

"Hoffwn gymeradwyo'r gwaith caled sy'n cael ei wneud gan yr ymddiriedolaeth i geisio sicrhau dyfodol y castell, a'u hawydd i weld y castell - a chwaraeodd ran mor bwysig yn hanes Cymru - yn rhan arwyddocaol o fywyd y gymuned yn y dyfodol."

Fe groesawodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth, Jann Tucker, gyfraniad Cadw, gan ddweud eu bod yn "gobeithio am ateb positif" i'w cais am ragor o arian loteri fel bod y "gwaith o atgyweirio'r castell yn gallu dechrau o'r diwedd er lles tre' Aberteifi, y bobl leol a'r ymwelwyr sy'n cael eu croesawu yno bob blwyddyn."



HEFYD
Castell: Ceisio hwb o 4.5 miliwn
20 Awst 10 |  Newyddion
Ailagor Castell Aberteifi
30 Meh 04 |  Newyddion
Cystadlu i adfer hen adeilad
30 Ebr 04 |  Newyddion
Ymgyrchu i ddiogelu castell
14 Ebr 03 |  Newyddion
Achub castell hynafol
03 Ebr 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific