British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 3 Ionawr 2011, 12:14 GMT
Adfer cyflenwadau dŵr ym Mhowys

Tap
Mae peirianwyr wedi bod yn ceisio adfer cyflenwadau dwr

Mae disgwyl y bydd cyflenwad dŵr i 200 o dai ym Mhowys yn cael ei adfer ddydd Llun.

Bu'r tai heb ddŵr ar ôl i bibellau dorri wedi'r tywydd oer diweddar.

Roedd Dŵr Cymru yn wreiddiol wedi gobeithio adfer y cyflenwad i gymunedau St Harmon ac Abatycwmhir, ger Rhaeadr Gwy, ddydd Sadwrn.

Yn ôl llefarydd roedd dod o hyd i bibellau'n gollwng yn waith anodd mewn ardal wledig.

Roedd pedair gwaith y nifer arferol o beirianwyr yn gweithio yn yr ardal ddydd Sul.

Ar wahân i'r tai ym Mhowys a rhai eithriadau, dywed Dŵr Cymru fod cyflenwadau "99.99%" wedi eu hadfer erbyn dydd Sul".

Dydd Mercher diwethaf roedd miloedd o gartrefi heb ddŵr ac roedd 19 o danceri yn cludo dŵr ledled Cymru.

Effeithiwyd ar gyflenwad 3,000 o gartrefi yn Sir Gaerfyrddin ar ôl problemau mewn gorsaf bwmpio.



HEFYD
Mwy o alwadau i gwmni dwr
28 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific