Y gobaith yw dangos y DVD yn gynnar yn 2011
|
Ar ôl 100 mlynedd mae Siop Griffiths ym Mhenygroes, Gwynedd, yn cau. Er mwyn cofnodi cyfraniad y siop mae DVD, sy'n cynnwys atgofion pobl leol, yn cael ei gynhyrchu. Un o'r rhai oedd am dynnu sylw at bwysigrwydd y siop yw'r Cynghorydd Owain Pennant Huws. "Mae'r atgofion dal yn gryf, bath yn hongian y tu allan i'r brif fynedfa, a phob math o nwydda fel dodrefn, sosbenni, goleuada olew - petha 'dach chi ddim yn eu gweld heddiw. "'Dan ni'n gwybod fod y siop yn unigryw ac mae'r ffaith ei bod yn cau yn golled fawr. "Dwi ddim yn credu y bydd siop debyg yn agor eto." Yn 1911 Thomas Griffiths agorodd y siop. 'Straeon' Symudodd o safle arall yn y pentre yn 1925 a mab Thomas, T Elwyn Griffiths, oedd wrth y llyw. Rhai o gynweithwyr Barcud yng Nghaernarfon sy wedi helpu cynhyrchu'r DVD. "Mi gafwyd diwrnod cyfan o ffilmio yn y siop, a rhoddwyd gwahoddiad i bobl leol sôn am hanes y siop ac adrodd straeon," meddai'r cynghorydd. "Wrth i ni ffilmio daeth dynes i mewn a gofyn am ddau fatri i'w thortsh. "Dywedodd Liz yn y siop eu bod ond yn dod mewn pecyn o bedwar ond mi dorrodd y pecyn a gwerthu dau fatri. "Dyna'r math o wasanaeth oedd yn cael ei gynnig." Mae'r perchennog presennol, sy'n byw yng Nghanada, wedi penderfynu gwerthu'r adeilad a chynnal arwerthiant o'r nwyddau yn y flwyddyn newydd. Yn y cyfamser, mae trefnwyr y DVD am glywed gan unrhyw un â hen luniau o'r adeilad.
Yn wreiddiol cafodd y siop ei hagor yn Stryd y Dŵr
|
Cyn y siop stablau ceffylau oedd ar y safle "Ychydig o flynyddoedd yn ôl roedd T Elwyn Griffiths yn gwerthu nwyddau i adeiladwyr lleol ond yna daeth cwmnïau mawr fel Jewson's ac roedd hi'n amhosib cystadlu," meddai'r cynghorydd. "Roedd Penygroes yn bentref prysur, yn ganolbwynt i bentrefi eraill yr ardal. A Mr Griffiths oedd y ffigur amlwg ym Mhenygroes. Bydd colli'r siop yn golled fawr." Nod y cynghorydd yw trefnu noson arbennig yn y pentref lle bydd pobl yn cael cyfle i wylio'r DVD. Dylai pobl ag atgofion neu luniau gysylltu ag Owain Pennant Huws ar 01286 881176 neu Beryl yn Antur Nantlle ar 01286 882688.
|