Mae'r ras yn coffáu camp y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân
|
Y cyn chwaraewr pêl-droed John Hartson a'r cyn chwaraewr rygbi Mark Taylor oedd y gwesteion arbennig ras Nos Galan Guto Nyth Bran yn Aberpennar eleni. Mae enwau'r gwesteion arbennig yn cael eu cadw'n gyfrinach tan y noson. Daeth tua 1,000 o redwyr i gystadlu yn y rasys traddodiadol nos Wener. Roedd y ras pum cilomedr yn dathlu ei phen-blwydd yn 51 oed eleni. Mae'r rasys wedi cael eu cynnal yng Nghwm Cynon ers 1958 ac mae 'na ras ar gyfer y plant ac ar gyfer oedolion. Cafodd y ras ei hatgyfodi i goffáu camp y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân. Fe ymddeolodd John Hartson o bêl-droed yn Ionawr 2008 ar ôl ennill 51 o gapiau i Gymru. Cafodd driniaeth am ganser yn 2009. Sefydlodd elusen y John Hartson Foundation i godi ymwybyddiaeth o ganser y ceilliau, ac fe fydd yn codi arian i'r elusen yn y Ras Nos Galan. Mark Taylor oedd chwaraewr rygbi gorau Cymru yn y flwyddyn 2000. Enillodd 53 o gapiau dros ei wlad - gan gynnwys pedair fel capten Cyn y ras, bydd y ddau yn gosod torch o flodau ar fedd Guto Nyth Brân ym mynwent Llanwynno.
|