Mae diweithdra yn arwain at iselder ymhlith yr ifanc
|
Mae pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu cynnydd mewn problemau iechyd meddwl fel iselder, pwl o banig a hunan atgasedd, yn ôl adroddiad newydd. Ymddiriedolaeth Y Tywysog wnaeth yr arolwg gan holi 2,170 o bobl ifanc 16-25 oed ar draws y DU. Mae'n nodi sut y mae pobl ifanc sydd ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn fwy tebygol o ddiodde' o'r symptomau yma. Roedd bron i hanner y rhai di-waith (48%) wnaeth ateb yr holiadur honni bod peidio bod mewn gwaith yn achosi problemau fel pwl o banig, anafu eu hunain a hunan atgasedd. 'Problemau gwirioneddol' "Mae diweithdra yn arwain at broblemau gwirioneddol," meddai Rick Libbey, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru.
 |
Methu cysgu: 28%
Anafu eu hunain: 21%
Iselder (drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser): 20%
Pyliau o banig: 20%
|
"Y mwyaf mae rhywun yn ddi-waith, y mwyaf o risg sydd yna. "Fe all yr ymddiriedolaeth gynorthwyo pobl ifanc i ganfod gwaith, codi eu hyder a'u hysgogi." Mae'r adroddiad yn canfod hapusrwydd pobl ifanc mewn amrywiaeth o agweddau o fywyd teuluol i iechyd emosiynol. Dyma'r trydydd tro o'r ymddiriedolaeth gynnal yr arolwg, a dyma'r ffigyrau isa'. Dywedodd 63% o bobl ifanc eu bod yn credu bod gwaith yn rhan bwysig o'u hunaniaeth. "Mae'r Nadolig yn gyfnod anodd o'r flwyddyn i deimlo yn isel ac ar ben eich hun," meddai Mr Libbey. 'Blaenoriaeth' Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Er nad ydym wedi cael cyfle i astudio'r adroddiad yma yn fanwl, mae canfod ateb i broblem pobl ifanc di-waith sydd ddim mewn hyfforddiant nac addysg yn flaenoriaeth i ni. "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd atal problemau iechyd meddwl a hybu iechyd meddwl positif. "Mae ein ffocws ar wella iechyd, ac mae gwasanaethau yn eu lle i gefnogi pobl drwy eu meddygon teulu, timau iechyd meddwl cymunedol a mynediad i wasanaethau arbenigol iechyd meddwl pan fydd angen hynny." Y llynedd fe wnaeth Ymddiriedolaeth y Tywysog gynorthwyo dros 44,000 o bobl ifanc dan anfantais i adeiladu eu bywyd a'u hyder.
|