British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 29 Rhagfyr 2010, 10:12 GMT
Prifysgol yn rhan o ymgais i dorri record byd

Lluniau cyfrifiadurol o'r Bloodhound (Llun gan Brifysgol Abertawe)
Mae'r brifysgol wedi bod yn rhan o'r gwaith paratoi

Mae un o brifysgolion Cymru yn rhan o dîm sy'n bwriadu gosod record newydd yn 2012.

Bwriad adran peirianneg Prifysgol Abertawe yw torri'r record cyflymder ar dir dros 1,000 milltir yr awr (1,610km/h).

Mae'r brifysgol yn cefnogi prosiect Bloodhound Super Sonic Car.

Mae'r tîm o Gymru wedi bod yn gweithio aerodynameg y cerbyd gan sicrhau ei fod yn parhau yn addas ar gyflymder uchel.

"Mae 'na gysylltid hir rhwng Cymru a'r record yma," meddai'r Athro Ken Morgan.

"Rydym yn hapus o barhau gyda'r traddodiad."

Peilot

Fe wnaeth y criw o Brydain sydd y tu cefn i brosiect Bloodhound lansio'r record yn 2007.

Y bwriad yw torri'r record a gafwyd yn Nevada yn 1997, o 763.04 milltir yr awr.

Model o'r Bloodhound (Llun gan Nick Haselwood)
Fe fydd y cerbyd yn cael ei adeiladu yn 2011

Peilot gyda'r Llu Awyr, Andy Green, oedd wrth y llyw yn 1997 a fo fydd eto wrth y llyw yn Ne Affrica yn 2012.

Cafodd y record byd cyntaf ei osod yn 1898 ar gyflymder o 39.24 milltir yr awr.

Mae cysylltiad cyntaf Cymru yn dyddio'n ôl i 1920au pan gafodd y record ei thorri pum gwaith ar draeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd Prifysgol Abertawe yn rhan o'r gwaith yn y 1990au.

"Y rheswm y daeth y criw aton ni oedd bod gennym ni'r dechnoleg yma, technoleg sydd wedi ei drosglwyddo i BAE Systems ac Airbus, sydd wedi ei ddatblygu," ychwanegodd Mr Morgan.

"Mae'r adnoddau yma yn dal yn flaengar.

"Ers 2007, pan ddaeth y cais eto, rydym wedi bod yn gweithio ar y system er mwyn sicrhau y bydd y cerbyd yn parhau ar y tir."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific