British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Rhagfyr 2010, 06:29 GMT
Pryderon llywodraeth am ympryd Gwynfor Evans

Elliw Gwawr
BBC Cymru

Gwynfor Evans
Roedd rhybudd y byddai 'llawer o dyndra a thrafferthion yng Nghymru yn hwyrach yn y flwyddyn ...' os oedd Gwynfor yn parhau 'i fwriad

Mae dogfennau sy newydd gael eu rhyddhau yn taflu goleuni ar ymateb y Cabinet pan oedd Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio hyd at farwolaeth.

Yn 1980 dywedodd arweinydd Plaid Cymru y byddai'n ymprydio hyd at farwolaeth pe na bai'r llywodraeth yn anrhydeddu'r ymrwymiad i ddarparu sianel deledu Gymraeg.

Mae cofnodion cyfarfodydd cabinet 1980 yn dangos bod Llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher wedi mynegi pryderon am y streic newyn.

Yn un o'r dogfennau dywedodd y Gweinidog Cartref, William Whitelaw, mai un o fanteision newid eu polisi oedd y byddai'n "perswadio Dr Gwynfor Evans ... i atal ei ympryd i farwolaeth".

Ond roedd Ysgrifennydd Cymru, Nicholas Edwards, am bwysleisio ei fod wedi gwneud yn glir i'r cyfryngau eu bod nhw wedi newid eu meddwl "nid mewn ymateb i drais ond mewn ymateb i farn gymedrol wedi ymgynghoriad eang yng Nghrymu".

Dogfennau
Roedd 'perygl y gallai Plaid Cymru gwympo i ddwylo arweinwyr adain chwith eithafol'

Mae dogfennau eraill o'r Archif Genedlaethol yn Kew yn dangos bod Mr Edwards wedi mynegi pryderon am y streic newyn ym mis Mehefin 1980.

Fe rybuddiodd Gabinet Mrs Thatcher ei bod hi'n bosib y byddai "llawer o dyndra a thrafferthion yng Nghymru yn hwyrach yn y flwyddyn os yw Mr Evans yn parhau gyda'i fwriad".

'Eithafol'

Hefyd, meddai, roedd yna "berygl y gallai Plaid Cymru gwympo i ddwylo arweinwyr adain chwith eithafol".

Yn ôl dogfennau pellach gafodd eu rhyddhau ar ôl 30 mlynedd fe rybuddiodd Mr Whitelaw y gallai trafodaethau am y Mesur Darlledu gael eu cynnal mewn "awyrgylch anodd ac emosiynol" os oedd Mr Evans yn marw neu'n ddifrifol wael oherwydd y streic newyn.

Ond dywedodd ar y pryd fod "popeth posib" yn cael ei wneud gan ffrindiau Mr Evans a ffigyrau cyhoeddus dylanwadol yng Nghymru i'w berswadio i beidio ag ymprydio.

Roedd y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur wedi addo sianel deledu os oedden nhw'n cael eu hethol yn Etholiad Cyffredinol 1979.

Ond yn fuan ar ôl i'r Ceidwadwyr ennill mwyafrif yn yr etholiad, fe benderfynodd Mr Whitelaw beidio â sefydlu pedwaredd sianel Gymraeg, gan gynnig yn lle y dylid rhannu rhaglenni Cymraeg ar draws dwy sianel.

William Whitelaw
William Whitelaw oedd yr Ysgrifennydd Cartref

Bu ymgyrchu brwd yng Nghymru ac ar ôl pwysau Mr Evans ac ymgyrchwyr eraill fe gyhoeddodd Mr Whitelaw ar Fedi 17, 1980 y byddai'r llywodraeth yn sefydlu un sianel.

Er hynny, mae cofnodion cyfarfodydd cabinet gafodd eu cynnal ar ôl y penderfyniad yn dangos bod Mr Whitelaw "yn dal i gredu bod y cynlluniau blaenorol yn well".

Mae'r dogfennau wedi cael eu rhyddhau i'r cyhoedd yn yr Archif Genedlaethol.

Gellir lawrlwytho detholiad o'r dogfennau am ddim tan ddiwedd Ionawr 2011 o wefan yr archif .



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific