British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Rhagfyr 2010, 13:37 GMT
Bwrdd iechyd yn ymddiheuro

Ysbyty Gwynedd
Bwrdd iechyd: 'Ysbytai o dan bwysau mawr'

Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro i glaf canser o Gricieth ar ôl iddi aros bron pedair awr mewn ambiwlans y tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor nos Lun.

Yn ôl teulu Kathleen Clarke, bu'n rhaid i'r ddynes 82 oed aros tan 10pm cyn cael mynediad i'r uned frys.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod wedi adolygu eu polisi ynglŷn â chaniatáu mynedfa.

Yn ôl Kevin Owen, mab yng nghyfraith Mrs Clarke, ar un adeg roedd 12 ambiwlans yn aros y tu allan i'r ysbyty.

'O dan bwysau mawr'

Dywedodd yr ymddiriedolaeth nad oedd mwy nag wyth o ambiwlansys yn aros yr un pryd.

Mewn datganiad dywedodd y bwrdd iechyd: "Hoffem ni ymddiheuro i Mrs Clarke a'i theulu.

"Roedd Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd o dan bwysau mawr ddydd Llun oherwydd y tywydd garw.

"Tra ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw pobl yn aros yn rhy hir mewn ambiwlans y tu allan i ysbytai, rhaid i ni bob tro sicrhau eu bod yn gallu dod i'r ysbyty yn ddiogel a bod yna adnoddau fel bod modd gofalu amdanyn nhw."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific