Fe gafodd pum ward eu cau ym mis Mawrth
|
Mae ward wedi cael ei chau oherwydd achosion feirws. Mae cleifion ac ymwelwyr wedi eu gwahardd rhag mynd i Ward C yn Ysbyty Treforys oherwydd achosion y salwch stumog, Norofeirws. Fe gafodd pum ward eu cau ym mis Mawrth. Dywedodd yr ymddiriedolaeth iechyd fod gan chwech o gleifion symptomau. Os bydd rhaid cau "nifer fawr" o wardiau, fe fydd rhaid gwahardd ymwelwyr rhag mynd i'r ysbyty, meddai rheolwyr. Dywedodd y Cyfarwyddwr Nyrsio, Victoria Franklin: "Mae'r feirws wedi amlygu ei hun yn gynt nag arfer ac eisoes rydyn ni wedi gorfod cau wardiau. "Ar hyn o bryd mae ein hysbytai o dan bwysau mawr oherwydd y tywydd oer ac mae mwy o gleifion brys wedi dod i mewn. 'Yn angenrheidiol' "Mae cau wardiau'n angenrheidiol ond mae hyn yn golygu nad yw gwelyau'n cael eu defnyddio ... fe allai hyn olygu mwy o oedi." Y mis hwn effeithiodd y feirws ar 157 o bobol yng Ngwesty Park Plaza yng Nghaerdydd. Mae'r feirws, sy'n lledu oherwydd cysylltiad â pherson neu wrthrych wedi ei heintio, yn effeithio ar hyd at filiwn o bobl y flwyddyn yn y pedair gwlad. Golchi'r dwylo yw'r ffordd bwysicaf oll i atal lledu'r feirws. Mae'r feirws, er mor annymunol yw, fel arfer yn dod i ben mewn hyd at 48 o oriau. Dylai unrhywun sy'n poeni ffonio meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.
|