British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Rhagfyr 2010, 06:45 GMT
Tai: '2011 yn wael ond yna twf aruthrol'

Tai ar werth

Mae 2010 wedi bod yn flwyddyn wael o safbwynt prisiau tai yng Nghymru, ac fe fydd 2011 yn waeth yn ôl un arbenigwr.

Ond mae haul ar y gorwel, gan y bydd prisiau, yn ôl Owain Llywelyn, yn cynyddu'n aruthrol wedi hynny, ac fe fyddan nhw yn ôl i lefelau 2007 erbyn diwedd 2013.

Roedd Mr Llywelyn - cyn gadeirydd Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig Cymru - yn siarad wrth draddodi un o ddarlithoedd Nadolig byr Prifysgol Morgannwg ar y we.

Dywed Mr Llywelyn fod prisiau tai Cymru wedi disgyn o rywle rhwng 0.1% a 5% gan ddibynnu ar ba ffigyrau yr ydych yn eu hystyried.

Ond fe all prisiau ddisgyn cymaint â 15% mewn mannau yn ystod y flwyddyn i ddod, ond yna fe ddaw tro ar fyd.

'Normalrwydd'

Owain Llywelyn
Bydd y cyfan yn cyfuno i greu twf aruthrol yn y farchnad dai am resymau masnachol syml - bydd llawer mwy o law am dai
Owain Llywelyn

"Peidiwch ddigalonni," medd Mr Llywelyn yn ei ddarlith, "erbyn 2012/13 fe ddaw normalrwydd yn ôl i'r farchnad dai.

"Pam? Wel mae cyfuniad o ffactorau. I ddechrau bydd arian yn dechrau llifo yn ôl i'r farchnad forgeisi, ond mae yna bedwar rheswm pwysig arall.

"1 - dyw pobl ddim yn gallu fforddio priodi mor fuan felly mae pobl angen dau fflat yn lle un;

"2 - mae pobl yn byw yn hyn ac yn cadw gafael ar eu cartrefi;

"3 - dyw awdurdodau lleol ddim wedi bod yn rhyddhau tir i'w ddatblygu yn gartrefi;

"4 - dyw datblygwyr ddim wedi bod yn fodlon mentro codi cartrefi newydd i'r un graddau ag y buon nhw.

"Bydd y cyfan yn cyfuno i greu twf aruthrol yn y farchnad dai am resymau masnachol syml - bydd llawer mwy o law am dai."

Mae'r ddarlith - sy'n para cwta dri munud - yn un o gyfres a roddwyd ar wefan YouTube gan Brifysgol Morgannwg cyn y Nadolig, gyda'r lleill yn canolbwyntio ar ystod eang o bynciau o gymdeithaseg a hanes i lenyddiaeth a'r gofod.



HEFYD
Y farchnad dai yn dal yn 'swrth'
09 Tach 10 |  Newyddion
Gorchymyn tai yn rhoi grym
21 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific