British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Rhagfyr 2010, 14:09 GMT
Miliband yn annog pleidlais 'Ie'

Blwch pleidleisio
Fe fydd pobl Cymru yn pleidleisio yn y refferendwm ar Fawrth 3

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi annog aelodau ei blaid yng Nghymru i bleidleisio 'Ie' yn y refferendwm ar fwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd Mr Miliband bod datganoli wedi bod yn llwyddiant o dan arweiniad Llafur a'i fod yn bryd i gymryd y cam nesaf: "Fe fyddai'n system well a thecach a system fyddai'n parchu Cymru."

Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar Fawrth 3.

'Ddim yn synnu'

Wrth ymateb dywedodd Gwir Gymru: "Dydyn ni ddim yn synnu at ddatganiad Mr Milliband.

"Rhaid i ni gofio y cefnogwyd Mr Milliband yn ei ymgyrch i fod yn arweinydd gan aelodau o Blaid Lafur sydd yn y Cynulliad.

"A fydden nhw 'n fodlon petai 'n methu cefnogi mwy o ddatganoli? "



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

HEFYD
Aelod Cynulliad yn ymddiheuro
19 Rhag 10 |  Newyddion
Cyfri diwrnod wedi'r refferendwm
10 Rhag 10 |  Newyddion
Mwyafrif yn debyg o ddweud Ie
01 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific