British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Rhagfyr 2010, 12:57 GMT
Penodi Cadeirydd Coleg Cymraeg

Yr Athro Merfyn Jones
Yr Athro Jones: "Anrhydedd mawr yw ymgymryd â'r rôl allweddol hon"

Mae'r Athro Merfyn Jones wedi cael ei benodi'n Gadeirydd cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd yn dechrau cyn lansiad y coleg ar Ebrill 1, 2011.

Roedd sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn addewid yn nogfen Cymru'n Un, sail clymblaid Llafur a Phlaid Cymru.

Bydd y coleg yn cydweithio â holl brifysgolion Cymru i gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg

'Rôl allweddol'

Dywedodd yr Athro Jones: "Anrhydedd mawr yw ymgymryd â'r rôl allweddol hon yn esblygiad addysg uwch gyfrwng Cymraeg.

"Ar ôl bod yn addysgu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg am bron 20 mlynedd, mae twf a chyfnerthiad pellach addysg uwch gyfrwng Cymraeg yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon ac edrychaf ymlaen yn hyderus at wneud cynnydd arwyddocaol a gwerthfawr yn y dyfodol."

Dywedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd y Bwrdd Gweithredu: "Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddatblygiad newydd o bwys ym maes addysg uwch gyfrwng Cymraeg.

"Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu penodi rhywun mor uchel ei barch yng Nghymru yn gadeirydd cyntaf y coleg ac rydw i'n dymuno pob llwyddiant iddo wrth iddo arwain y coleg yn ystod y cyfnod pwysig sydd o'i flaen."

Darlith mewn prifysgol
Bu ymgyrch i sefydlu coleg ffederal am 10 mlynedd

Ychwanegodd yr Athro Noel Lloyd, Cadeirydd Addysg Uwch Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rydw i'n sicr y bydd dealltwriaeth yr Athro Jones o ddiwylliant a threftadaeth Cymru a'i brofiad o weithio yn y sector addysg uwch yng Nghymru yn ein helpu i sicrhau datblygiadau pwysig pellach mewn addysg uwch gyfrwng Cymraeg yn ystod y blynyddoedd i ddod."

1971

Gwnaeth yr Athro Jones ei radd gyntaf ym Mhrifysgol Sussex ac roedd ei astudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Warwick cyn ei benodi i'w swydd ymchwil gyntaf yn Abertawe yn 1971.

Yn 1975 symudodd i Lerpwl lle bu'n dysgu yn y brifysgol am 15 mlynedd, yn Gyfarwyddwr Addysg Barhaus ac yn Ddeon.

Symudodd i Fangor yn 1992 ble daeth yn Bennaeth yr Ysgol Hanes a Hanes Cymru, yn Athro Hanes Cymru, yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithas ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor.

Yn 2004 penodwyd yr Athro Jones yn chweched Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, ac yntau'n Is-Ganghellor dros dro ers 2003.

Ymddeolodd ym mis Hydref 2010.



HEFYD
'Ie' i Goleg Ffederal
24 Meh 09 |  Newyddion
Coleg ffederal: Bwrdd yn cyfarfod
20 Hyd 08 |  Newyddion
Cymru'n Un: Pen-blwydd hapus?
07 Gorff 08 |  Newyddion
Mwy o Gymraeg yn y colegau?
27 Tach 07 |  Newyddion
Addysg: Bwrdd Iaith yn poeni
26 Tach 07 |  Newyddion
Protest dros addysg Gymraeg
26 Hyd 06 |  Newyddion
'Gwrthod coleg ffederal Cymraeg'
11 Gorff 06 |  Newyddion
£1m at addysg uwch Gymraeg
26 Gorff 05 |  Newyddion
£3m i hybu darlithwyr Cymraeg
03 Meh 05 |  Newyddion
Protest o blaid addysg Gymraeg
22 Chwef 05 |  Newyddion
Prifysgol Cymru'n croesawu arian
03 Tach 04 |  Newyddion
Coleg 'wedi bradychu'r iaith'
24 Hyd 04 |  Newyddion
Sefyllfa'r iaith 'yn drychinebus'
03 Awst 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific