Storm yn Y Borth yn 1990
Mae prosiect amddiffyn arfordirol gwerth £12 miliwn yn Y Borth, Ceredigion, wedi cael sêl bendith. Bydd y gwaith yn lleihau'r risg o lifogydd ac erydu arfordirol yn yr ardal ger Aberystwyth ar gyfer y ganrif nesaf. Bydd yn cynnwys creigres artiffisial a fydd hefyd, fe obeithir, yn denu syrffwyr i'r traeth sy'n ymestyn am bedair milltir. Mae disgwyl i'r gwaith, sydd wedi ei gymeradwyo gan y Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson, ddechrau ym mis Ionawr. Bydd y greigres 140 metr wrth 40 metr wedi ei gwneud o greigiau yn cael ei hadeiladu wrth ymyl morglawdd sy'n mesur 70 metr wrth 40 metr wedi ei gosod 300 metr i mewn i'r môr. Adeiladwyd yr amddiffynfeydd presennol yn 1960, a chredir bod tua 330 o adeiladau mewn risg o lifogydd, gan gynnwys 40 o adeiladau masnachol, rheilffordd y Cambrian a ffordd y B4353. 'Newyddion gwych' Dywedodd cynghorydd sir Y Borth, Ray Quant: "Mae hyn yn newyddion gwych i gymuned Y Borth ar ôl cymaint o ansicrwydd dros y blynyddoedd am yr adnoddau ariannol sydd eu hangen i gael amddiffynfeydd arfordirol newydd o safon. "Mae'n hen bryd cwblhau'r gwaith a thrwy hynny helpu rheoli'r risg o lifogydd ar hyd y pentref am y 100 mlynedd nesaf.." Y bwriad yw cwblhau'r gwaith erbyn mis Medi 2011. Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, Jane Davidson: "Mae un o bob chwe eiddo yng Nghymru mewn risg o lifogydd, ac amcangyfrifir bod llifogydd yn achosi gwerth tua £200m o ddifrod yn flynyddol." Daeth £5.5m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
|