Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod yn erbyn yr argymhellion
|
Mae cynghorwyr Gwynedd o blaid argymhellion ad-drefnu ysgolion cynradd yn ardal Tywyn yn ne'r sir. Yng nghyfarfod y cyngor llawn ddydd Iau cymeradwyodd y cynghorwyr yr argymhellion canlynol: - Cau Ysgol Abergynolwyn erbyn 31 Mawrth 2011; - Cau ysgolion Bryncrug, Llanegryn a Llwyngwril yn ystod y flwyddyn ysgol 2013-14; - Cychwyn proses ymgynghoriad i sefydlu ysgol ardal gymunedol fydd yn agor yn ystod blwyddyn ysgol 2013-14 ar safle ar gyrion pentref Llanegryn - yn dibynnu ar yr argymhelliad i gau ysgolion Bryncrug, Llanegryn Llwyngwril ac Abergynolwyn; - Cau Ysgol Aberdyfi erbyn 31 Awst 2013 pan fydd gwelliannau wedi eu cwblhau yn Ysgol Penybryn, Tywyn. Fe fydd yr argymhellion yn golygu gwneud newid rhagnodedig i Ysgol Penybryn, Tywyn, drwy ganiatáu i Ysgol Penybryn roi mynediad i ddisgyblion oedran meithrin yn unol â pholisi'r cyngor o Fedi 2011 ymlaen. £7.9 miliwn Dywedodd y Cynghorydd Liz Saville Roberts sy'n arwain ar Addysg ar Gyngor Gwynedd: "Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i raglen o fuddsoddi i wella safon addysg plant ... "Yn ardal Dysynni, rydym wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu grant o £5.5 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad tuag at brosiect £7.9 miliwn yn ardal Tywyn i adeiladu ysgol ardal newydd ac i wella cyfleusterau o fewn tair o ysgolion eraill o fewn y dalgylch. "Amcan y strategaeth yw sicrhau bod pobl ifanc yr ardal yn derbyn eu haddysg mewn cyfleusterau modern sy'n cynnig pob cyfle iddynt allu cyflawni eu llawn botensial." Dileu Fe wnaeth cynlluniau blaenorol y cyngor gael eu dileu ar ôl etholiadau lleol 2007. Roedd rhieni yn gwrthwynebu'r cynlluniau blaenorol ac fe ymgyrchodd grŵp Llais Gwynedd yn erbyn cau'r ysgolion. Yn hytrach nag edrych ar y sir gyfan mae'r cyngor yn ystyried ysgolion cynradd fesul ardal. Y cynlluniau ar gyfer de Gwynedd, ardal Tywyn, ydi'r rhai cyntaf i gael eu hystyried.
|