British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Rhagfyr 2010, 08:51 GMT
Gohirio cyhoeddiad hofrenyddion

Hofrennydd
Roedd disgwyl i'r hofrenyddion newydd gymryd lle y Sea King

Mae Llywodraeth San Steffan wedi gohirio cyhoeddiad am ddyfodol gwasanaethau achub yr awyrlu.

Mewn cynllun a amlinellwyd yn gynharach yn yr wythnos, y bwriad oedd gwerthu hofrenyddion Sea King yr awyrlu, gan gynnwys y rhai yn Y Fali, Ynys Môn.

Byddai consortiwm o Ffrainc wedyn yn cael y cytundeb, sy'n werth tua £7 biliwn, i redeg y gwasanaeth gyda hofrenyddion Sikorsky.

Ond dydd Iau dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, fod y consortiwm o fewn y 48 awr ddiwethaf wedi dod yn ymwybodol o broblem yn gysylltiedig â'u cynnig.

'Eglurdeb'

Dywedodd Mr Hammond: "O dan yr amgylchiadau, dyw hi ddim yn briodol i ni fwrw 'mlaen gyda'r cyhoeddiad tan i ni gael eglurdeb am statws y broblem yma."

Ychwanegodd y byddai yntau a'r Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, yn gwneud datganiad pellach i Dŷ'r Cyffredin "cyn gynted ag y gallwn ni ddarparu mwy o wybodaeth, ac y gallwn gyflwyno ein cynlluniau i sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaeth hofrennydd chwilio ac achub yn y dyfodol".

Ychwanegodd: "Mae'n ddrwg gennym am yr ansicrwydd pellach y mae hyn yn ei olygu i bawb sy'n darparu gwasanaeth chwilio ac achub i'r DU."

Canolfan yr Awyrlu yn Y Fali ar Ynys Môn yw un o'r canolfannau dan sylw.



HEFYD
Preifateiddio hofrenyddion?
19 Tach 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific