British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Rhagfyr 2010, 12:45 GMT
Incwm prifysgolion 'ddim yn newid'

Prifysgol Bangor
Mae'r ffigyrau'n darogan na fydd incwm prifysgolion fel Bangor yn newid rhyw lawer

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi amcangyfrifon sy'n awgrymu na fydd incwm prifysgolion Cymru yn newid am chwe blynedd er y bydd ganddyn nhw'r hawl i godi ffïoedd uwch.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Leighton Andrews, ei fod yn cyhoeddi manylion i gefnogi ei addewid na fydd ffïoedd i fyfyrwyr o Gymru yn codi.

"Ac mae'r ystadegau hyn yn cynnig ateb cynaliadwy i fyfyrwyr a phrifysgolion," meddai.

Mae'r ystadegau'n darogan y bydd cyllid cyhoeddus i brifysgolion yn disgyn o £395m y flwyddyn nesa' i £301m erbyn 2016-17.

£224m

Bydd incwm ffïoedd myfyrwyr yn codi o £224m y flwyddyn nesa' i £411m erbyn 2016-17.

Mae'r amcangyfrifon ar sail ffïoedd ar gyfartaledd o £7,000 y flwyddyn o 2012 ymlaen gyda chynnydd yn unol â chwyddiant o hynny ymlaen.

O ganlyniad, bydd incwm prifysgolion Cymru yn codi o £1.18 biliwn y flwyddyn nesa' i £1.35 biliwn erbyn 2016-17.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi dweud y byddan nhw'n dileu ffïoedd is i fyfyrwyr o Gymru pe baen nhw'n ennill Etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2011, wedi galw ar y gweinidog i gyhoeddi'r manylion ariannol sy'n cefnogi'r cynllun.

Ond nid yw'r manylion ar gyfer sefydliadau unigol wedi eu cyhoeddi ac mae pryder o fewn y sector y bydd rhai prifysgolion yn dioddef yn fwy na'i gilydd o dan y drefn ariannu newydd.

Croesi'r ffin

Leighton Andrews
Fel mae'r ffigyrau yn dangos, mae hwn yn ateb cynaliadwy sy'n cynnig twf i sefydliadau addysg uwch Cymru wrth fod yn deg i fyfyrwyr o Gymru
Leighton Andrews AC

Gweinidog Addysg

O dan gynllun newydd Llywodraeth y Cynulliad, bydd myfyrwyr o Gymru yn talu dim mwy na £3,290 os byddan nhw'n astudio yng Nghymru neu yn Lloegr, beth bynnag yw'r ffïoedd.

Llywodraeth y Cynulliad fydd yn talu'r gwahaniaeth, gan ddefnyddio arian a dynnwyd o grant addysgu'r prifysgolion.

Ond bydd myfyrwyr o Loegr sy'n astudio yng Nghymru yn talu'r ffi lawn sy'n cael ei chodi gan y prifysgolion hyn, ac fe allai hynny fod gymaint â £9,000.

Mae hynny'n golygu y bydd mwy o arian yn dod i'r sector addysg uwch yng Nghymru er gwaethaf y cymhorthdal i'r myfyrwyr o Gymru.

Ar hyn o bryd, mae tua 16,000 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio yn Lloegr, ond mae 25,000 o fyfyrwyr o Loegr yn dewis astudio yng Nghymru.

'Ateb cynaliadwy'

Dywedodd Mr Andrews: "Mae ein hymateb i'r cynnydd mewn ffïoedd dysgu yn Lloegr yn golygu y gallwn barhau gyda chymhorthdal sylweddol i'r sector addysg uwch yng Nghymru tra'n parhau i gyfrannu at addysg uwch myfyrwyr o Gymru.

"Er mwyn talu am y gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr o Gymru, cyhoeddais y byddwn yn cwtogi'r grant addysgu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o 35%, ac y bydd incwm sefydliadau addysg uwch Cymru yn aros yr un peth mewn termau real yn 2016-17 ag y bydd yn 2012-13.

"Fel mae'r ffigyrau yn dangos, mae hwn yn ateb cynaliadwy sy'n cynnig twf i sefydliadau addysg uwch Cymru wrth fod yn deg i fyfyrwyr o Gymru."



HEFYD
O blaid cynyddu ff´oedd i fyfyrwyr
09 Rhag 10 |  Newyddion
Rhybudd i brifysgolion Cymru
03 Rhag 10 |  Newyddion
Myfyrwyr i dalu dim mwy na ú3,290
30 Tach 10 |  Newyddion
'Pryder am ddyfodol prifysgolion'
24 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific