British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 6 Ionawr 2011, 11:12 GMT
Dau rifyn dyddiol i'r Daily Post yn y gogledd

Daily Post
Mae dau rifyn o'r Daily Post ar gael yn y gogledd bellach

Mae papur dyddiol y Daily Post yn dechrau cyfnod newydd wrth gyhoeddi dau rifyn y diwrnod yn y gogledd.

Fe fydd un ar gyfer gogledd ddwyrain Cymru a'r llall yn rhoi blaenoriaeth i newyddion y gogledd orllewin.

Mae perchennog y papur, Trinity Mirror, wedi rhoi'r gorau i gyhoeddi un papur wythnosol rhad ac am ddim, y Denbighshire Visitor.

Fe fydd papur y gogledd ddwyrain yn canolbwyntio ar straeon siroedd Wrecsam, Dinbych a Fflint tra bydd straeon Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn y rhifyn arall.

Yn ôl yr ystadegau, 32,000 yw cylchrediad dyddiol y Daily Post.

Dywedodd Linda Roberts, un o olygyddion cwmni Trinity Mirror, y bydden nhw'n darparu newyddion mwy lleol.

Hysbysebion lleol

"Fe fydd y straeon ar y dudalen flaen yn ogystal â thudalennau 3,5, 7 a 9 ac mae modd newid y tudalennau chwaraeon yn ogystal.

"Gall y tudalennau gynnwys hysbysebion lleol ac o fis Chwefror ymlaen fe fydd atodiad hysbysebion penodol ar gyfer y gogledd ddwyrain."

Mae rheolwyr y papur wedi dweud bod y newid "oherwydd galw'r darllenwyr a'r hysbysebwyr".

Fe fydd cynnwys oedd yn y Denbighshire Visitor yn rhifyn y gogledd ddwyrain.

"Cefndir y newid yw bod papurau newydd ar y cyfan yn diodde, gwerthiant ar i lawr ers amser hir bellach i bob papur," meddai Dr Llion Iwan, darlithydd newyddiaduraeth Prifysgol Bangor.

"Mae arian hysbysebion hefyd i lawr ac mae 'na gyfyngiadau ariannol mawr.

"Maen nhw'n edrych ar ffyrdd i effeithlonni casglu newyddion, dosbarthu ac argraffu. Yn y tymor hir maen nhw am ganoli adnoddau.

"Y nod yw rhoi hunaniaeth gref i'r ardaloedd yn y gogledd ac efallai gynyddu cylchrediad.

"Ond be fydd yr effaith ar y papurau lleol? Dyma'r rhai fydd yn diodde yn y pendraw."

Dywedodd y cwmni na fyddai newyddiadurwyr yn colli gwaith ond y byddai nifer fach o swyddi dosbarthu yn diflannu.



HEFYD
Newyddiadurwyr i golli swyddi
27 Tach 08 |  Newyddion
Papur newydd yn 150 oed
11 Meh 05 |  Newyddion
Gwefan Gymraeg i bapur newydd
27 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific