British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2010, 15:24 GMT
Y dyfrgi'n ôl yn afonydd 'iach' Cymru

Dyfrgi
Mae dyfrgwn yn hoff o ddŵr glan

Mae nifer y dyfrgwn yng Nghymru yn cynyddu, yn ôl arolwg.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru fod arwyddion fod y mamal yn byw mewn mwy na 1,000 o safleoedd.

Casgliad yr arolwg oedd bod fod naw o bob 10 safle yn dangos arwyddion o ddyfrgwn, o'i gymharu â dim ond dau o bob deg ym 1978.

Yn ôl Rob Strachan, y swyddog bioamrywiaeth: "Mae ein hafonydd yn iachach nag y buon nhw ers 20 mlynedd."

Mae'r asiantaeth yn arolygu nifer y dyfrgwn bob saith mlynedd.

DYFRGWN YNG NGHYMRU

Yng ngorllewin Cymru roedd tystiolaeth fod nifer uchel o ddyfrgwn yn afonydd Cleddau, Teifi, Tywi a Llwchwr fel ag yr oedd yn rhannau ucha' afonydd Hafren a Gwy yn y canolbarth.
Ers 2002 mae gwelliannau wedi eu cofnodi yn afonydd Wysg a Thaf yn ne-ddwyrain Cymru.
Yn yr ardal a arferai gael ei hadnabod fel Morgannwg Ganol, roedd 18% o safleoedd yn dangos olion dyfrgwn yn 2002, ond mae'r ganran wedi codi i 70% erbyn eleni.
Mae dyfrgwn i'w gweld yng nghanol Caerdydd erbyn hyn, ar afonydd Taf ac Elái.
Ffynhonnell: Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Roedd yr astudiaeth ddiwethaf yn 2002.

Afonydd iach

Baw ac olion traed oedd yn brawf o bresenoldeb y dyfrgwn.

Dywedodd Mr Strachan: "Mae'r dyfrgi yn ffordd bwysig o ddangos pa mor iach yw'r afonydd a'r gwlypdir.

"Mae monitro'r niferoedd yn rhoi syniad gwerthfawr i ni o ba mor dda yw'n hamgylchedd dŵr ni."

Fe ddangosodd yr ymchwil hefyd fod nifer y dyfrgwn ar Ynys Môn wedi cynyddu'n sylweddol ers 2002.

Plaladdwyr

Mae'r mamaliaid yn byw yn 67% o safleoedd, gan gynnwys rhai newydd ar ochr orllewinol a gogleddol yr ynys, o'i gymharu â dim ond 18% o safleoedd yn 2002.

Dywedodd yr asiantaeth fod y cynnydd cyffredinol yn nifer y dyfrgwn yn newyddion da iawn ar ôl i'r boblogaeth ddiflannu bron oherwydd defnydd o blaladdwyr niweidiol yn y 1950au.

Cafodd y cemegolion eu gwahardd ond mae wedi cymryd amser hir i niferoedd y dyfrgwn godi eto.

Ar ôl cyflwyno deddfau i amddiffyn dyfrgwn a gwella ansawdd dŵr mae'r niferoedd yn cynyddu'n raddol unwaith eto.

Monitro

Er bod afonydd Cymru yn eu cyflwr iachaf ers 20 mlynedd, dywedodd Mr Strachan eu bod yn parhau i'w monitro ac i gyflwyno gwelliannau pellach.

"Mae 'na newidiadau ar y gweill i barhau â'r gwaith da ond mae ein harolwg ni'n dangos llwyddiant mawr o ran rheolaeth llygredd yn ogystal ag o ran buddsoddiad yn y diwydiant dŵr, ac ymdrechion tirfeddianwyr a rheolwyr afonydd.

"Mae'n rhaid i ni barhau i gydweithio i sicrhau fod y dyfrgi yn parhau yn arwydd o amgylchedd dŵr iach."



HEFYD
Clirio afonydd i wella'r amgylchedd
18 Ion 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific