British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2010, 10:22 GMT
Medalau i'w gwneud yng Nghymru

Y Bathdy Brenhinol

Bydd medalau'r Gemau Olympaidd yn Llundain 2012 yn cael eu gwneud yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.

Cyhoeddodd trefnwyr y Gemau y bydd y bathdy yn cynhyrchu tua 4,700 o fedalau Olympaidd a Pharalympaidd.

Dyw'r cynlluniau ar gyfer y medalau aur, arian ac efydd ddim wedi eu cwblhau eto.

Dywedodd Prif Weithredwr Llundain 2012, Paul Deighton:

"Rydym wrth ein boddau'n gweithio gyda'r Bathdy Brenhinol, cwmni sydd wedi ei sefydlu yn y DU ers 1,100 o flynyddoedd, i gynhyrchu medalau buddugol Llundain 2012.

"Mae'r medalau Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu cyflwyno i athletwyr gorau digwyddiad chwaraeon mwya'r byd ar binacl gyrfa unigolyn, ac rydym yn falch o gyhoeddi y byddan nhw'n cael eu gwneud yn ne Cymru."

'Newyddion gwych'

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y Bathdy Brenhinol, Adam Lawrence, fod hyn yn "newyddion gwych" i'r wlad, yr 800 o weithwyr yn y bathdy ac i'r cwmnïau sy'n cyflenwi deunydd iddyn nhw.

Mae rhestr fer o artistiaid o Brydain a fydd yn cynllunio'r medalau aur, arian ac efydd wrthi'n cael ei llunio.

Bydd y cynlluniau terfynol yn cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2011.



HEFYD
Cymry'n cynllunio darnau arian
13 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific