British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2010, 09:42 GMT
Pennaeth rygbi i arwain ymgyrch

Roger Lewis
Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, fydd cadeirydd yr ymgyrch 'Ie'.

Cadeirydd ymgyrch 'Ie' ar gyfer y refferendwm ar bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol fydd Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

Pennaeth rygbi Cymru fydd yn arwain tîm o ymgyrchwyr ar gyfer pleidlais 'Ie' yn y refferendwm ar Fawrth 3, 2011.

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn falch o arwain ymgyrch fydd yn ceisio sicrhau llais cryfach i Gymru.

'Ymgyrch i'r bobl'

Wrth lansio gwefan i'r ymgyrch yn Y Barri, dywedodd Mr Lewis:

"Mae'r refferendwm yn gyfle i uno ein cenedl a byddaf yn gweithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol a phobl o bob maes, yn enwedig pobl fu erioed yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol, i gefnogi pleidlais Ie ar Fawrth 3.

Cadeirydd i'r Ymgyrch Ie

"Ymgyrch y bobl, nid ymgyrch y gwleidyddion, fydd hon. Rydym eisiau i bobl Cymru uno y tu ôl i'r egwyddor syml y dylai cyfreithiau sy'n effeithio ar Gymru yn unig gael eu gwneud yng Nghymru.

"Wnawn ni ond ennill os bydd gennym wirfoddolwyr ym mhob tref a phentref yn pledio'r achos dros bleidlais Ie.

"Os yw pobl am i Gymru gael llais, cryfach, buaswn yn eu hannog i gofrestru eu cefnogaeth i wefannau ein hymgyrch."

'Elitaidd'

Ond roedd ymgyrchwyr yn erbyn yr ymgyrch yn ddirmygus o'r penodiad.

Dywedodd Nigel Bull o grwp 'True Wales': "Dyw e ddim syndod fod yr ymgyrch 'Ie' elitaidd wedi dewis Roger Lewis - sydd mae'n debyg yn ddyn cyfoethog iawn - i fod yn gadeirydd.

"Bydd hyn yn gwneud dim i newid yr argraff fod gwleidyddion yn y Bae yn ceisio am fwy o rym iddyn nhw'u hunain er mwyn pluo'u nyth eu hunain yn hytrach nag estyn llaw i bobl go iawn Cymru.

"Ai dyma'r 'seleb' cynta' fydd yn cael ei ddatgelu ganddyn nhw?

"Mae'r dosbarth gwleidyddol yn dangos o hyd nad yw mewn cysylltiad o gwbl gyda'r bobl."



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO

HEFYD
Cyfri diwrnod wedi'r refferendwm
10 Rhag 10 |  Newyddion
Mwyafrif yn debyg o ddweud Ie
01 Rhag 10 |  Newyddion
Refferendwm: 'Llwybr llithrig'
28 Tach 10 |  Newyddion
Refferendwm 'gam mawr' yn nes
10 Tach 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific