British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2010, 19:54 GMT
Adolygiad barnwrol i gartrefi gofal yn Sir Benfro

Henoed
Bydd faint o arian mae cyngor yn ei wario yn destun adolygiad barnwrol

Fe fydd yr arian y mae un o gynghorau Cymru yn ei dalu am ofal mewn cartrefi gofal yn cael ei herio yn y llys.

Dadl rheolwyr pedwar cartref gofal yn Sir Benfro, sydd mewn peryg o gau, yw bod rhaid codi'r swm o £390 am bob preswylydd yr wythnos i £480.

Mae 'na 86 o bobl yn aros yng nghartrefi Pen-coed yn Saundersfoot, Langton Hall yn Abergwaun, Woodfield yn Arberth a Woodland Lodge yn Ninbych-y-Pysgod.

Yr awdurdod lleol sy'n talu costau hanner y trigolion ac maen nhw'n dweud bod y taliad yn un teg.

Mae'r adolygiad barnwrol wedi cychwyn ddydd Mawrth.

Yn ôl y cartrefi dydi £390 yr wythnos ddim yn ddigon i dalu am y costau sylfaenol.

Costau

Ond dywed Cyngor Sir Benfro bod cynghorau eraill yng Nghymru yn talu llai i rai cartrefi gofal.

Maen nhw'n dweud bod problemau ariannol y pedwar cartref yma yn ddim i'w wneud â'r modd mae'r costau'n cael eu pennu.

Dywedodd Fforwm Gofal Cymru, sy'n cynrychioli darparwyr gofal annibynnol, bod y pedwar cartref wedi derbyn marciau gwych gan reoleiddwyr y gwasanaeth gofal, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Fe fydd yr adolygiad barnwrol yn canolbwyntio ar y ffïoedd yn Sir Benfro.

Mae'r materion yma yn rhai sy'n effeithio ar gartrefi gofal ar draws Cymru.

Mae pob rhan o wariant cyhoeddus yn wynebu toriadau, a dyw gofal ddim yn eithriad.

Yn ôl Arweinydd Cyngor Sir Benfro, John Davies, petai'r cyngor yn cytuno i dalu £500 yr wythnos i bob cartref yn y sir, fe fyddai cost gofal mewn cartrefi i'r sir yn £2.25 miliwn.



HEFYD
Cartrefi gofal: adolygiad barnwrol
09 Tach 10 |  Newyddion
Busnes cartrefi gofal ar werth
03 Tach 10 |  Newyddion
Rali yn erbyn cau cartrefi gofal
24 Ebr 10 |  Newyddion
Lleisio barn am gartrefi gofal
01 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific