Y gwasanaeth ddim yn perfformio'n dda, yn ôl y cyngor
Gallai hyd at saith llyfrgell yn Sir Conwy gau os yw cyngor y sir yn cymeradwyo cynlluniau. Bu'r cyngor yn trafod y mater ddydd Mawrth ac fe fydd cyfnod ymgynghori'n dechrau nawr ar ddau gynllun - i gau unai pump neu saith o'r 12 llyfrgell sydd yn y sir. Y gwasanaeth yng Nghonwy yw un o'r rhai sy'n perfformio waethaf yng Nghymru. Fe fyddai cau rhai o'r llyfrgelloedd bach, meddai, yn golygu gwella'r gweddill.
 |
LLYFRGELLOEDD SIR CONWY
Abergele
Bae Cinmel
Bae Colwyn
Bae Penrhyn
Cerrigydrudion
Conwy
Cyffordd Llandudno
Deganwy
Llandudno
Llanfairfechan
Llanrwst
Penmaenmawr
|
Dywedodd y cyngor nad oedd digon o amrywiaeth o lyfrau, dim digon o staff - ac adeiladau mewn cyflwr gwael. Ymhlith y llyfrgelloedd o dan fygythiad mae Deganwy, Llanfairfechan a Bae Penrhyn. Fe fyddai arian sy'n cael ei arbed yn cael ei wario ar wella adnoddau ac adeiladau yng Nghonwy neu Gyffordd Llandudno. Ond dywedodd un o gynghorwyr Bae Penrhyn fod y llyfrgell yno yn bwysig. "Mae'r llyfrgell yn arbennig oherwydd ei lleoliad," meddai Myra Wigzell, Cynghorydd Tref Llandudno ar ward Penrhyn. 'Edrych ar fap' "Ac mae'r llyfrgell y drws nesaf i'r swyddfa bost ac yn ganolbwynt i'r pentref. "Mae'n debyg bod y cyngor wedi edrych ar fap a gweld bod ein llyfrgell ni yn agos at rai Bae Colwyn a Llandudno. "Mae nifer o bobl oedrannus yn byw ym Mae Penrhyn ac yn defnyddio'r llyfrgell." Dywedodd fod pobl Llanrhos yn defnyddio'r llyfrgell gan fod cyrraedd a pharcio'n haws. Os yw'r cyngor yn cymeradwyo'r cynlluniau, fe fydd defnyddwyr yn cael cyfle i leisio barn.
|