Fe gafodd cwest ei agor a'i ohirio
|
Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio ar ôl i ferch 15 oed farw'n sydyn dros y penwythnos. Bu farw Ffion Haf Vaughan-Williams yn ei chartre' ddydd Sadwrn. Roedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, Gwynedd. Dyw Dirprwy Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Nicola Jones, ddim wedi rhyddhau unrhyw fanylion ychwanegol ynglyn â marwolaeth y ferch. Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedden nhw'n ymchwilio i'r farwolaeth. Yn ôl Pennaeth Ysgol Eifionydd, Alwen Watkin: "Rydym ni wedi cael sioc ac yn drist iawn o glywed am farwolaeth Ffion Vaughan-Williams, disgybl ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Eifionydd. "Roedd hi'n ddisgybl annwyl a dymunol ac mae ei hathrawon wedi dweud ei bod hi'n ferch siriol a bywiog oedd bob amser yn frwdfrydig ac yn gweithio'n galed. "Mae ei marwolaeth yn drasiedi i bawb oedd yn ei hadnabod ac rydan ni'n cydymdeimlo'n arw gyda'i theulu."
|