British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 12 Rhagfyr 2010, 10:56 GMT
Preifateiddio'r gwasanaethau achub?

Hofrennydd Sea King
Gallai cwmni preifat gymryd drosodd yr hofrenyddion achub

Gallai nifer o ganolfannau gwylwyr y glannau gau a chwmnïau preifat fod yn gyfrifol am yr hofrenyddion achub.

Mae'n rhan o gynlluniau Llywodraeth San Steffan i arbed arian.

Fe fydd y newidiadau yn cynnwys gwasanaeth yr hofrennydd sydd wedi ei lleoli yn Y Fali, Ynys Môn.

Gwylwyr y glannau sy'n cydlynu a rheoli ymdrechion achub ar draws y DU a'r disgwyl yw y bydd dros hanner y canolfannau yn cau.

Ar hyn o bryd mae 'na 19 o ganolfannau yn y DU.

Mae'n rhaid i'r Adran Drafnidiaeth wneud arbedion o 15% dros y pedair blynedd nesaf.

Consortiwm o dramor

Mae disgwyl y bydd mwy o wybodaeth yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos.

Y gred ydi y bydd y llywodraeth glymblaid yn mynnu y bydd cau rhai canolfannau gwylwyr y glannau yn arbed arian ond yn gyfle hefyd i foderneiddio'r gwasanaeth.

O ran y gwasanaeth hofrenyddion achub, y disgwyl yw y bydd yn cael ei werthu i gonsortiwm o dramor.

Yn Y Fali y mae pencadlys hyfforddi gwasanaeth achub y Llu Awyr.

Mae'n ansicr a fydd hyn yn parhau a faint o effaith y bydd unrhyw gyhoeddiad yn ei wneud i swyddi yn yr ardal.

Roedd y llywodraeth flaenorol wedi argymell y dylai cwmni preifat fod yn gyfrifol am y gwasanaeth achub yn hytrach na'r Llu Awyr ac y dylai hofrenyddion newydd gymryd lle'r Sea King presennol.

Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth achub yn cynnwys y Llu Awyr, y Llynges a hofrenyddion sifil drwy wasanaeth Gwylwyr y Glannau.

Ym mis Chwefror fe gyhoeddwyd mai cwmni preifat Soteria a fydd yn gyfrifol am y gwasanaeth 24 awr o 2012 mewn 12 lleoliad.

Mae'r cytundeb yn werth £6 biliwn dros 25 mlynedd a bydd nifer y criw milwrol yn lleihau o 240 i 66 gyda staff sifil yn gwneud y gwahaniaeth.



HEFYD
Yn erbyn is-raddio gwasanaeth achub
31 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific