British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Rhagfyr 2010, 09:36 GMT
Cynllun i ehangu cwmni Rachel's

Cynnyrch Rachel's
Mae'r cynnyrch ar gael mewn archfarchnadoedd drwy'r DU

Mae perchnogion newydd cwmni Rachel's - sydd a'i bencadlys yn Aberystwyth - yn dweud eu bod nhw eisiau gweld y cwmni yn ehangu.

Dywedodd cwmni Lactalis o Ffrainc eu bod am weld y cwmni yn arwain y farchnad ym Mhrydain ac o bosib yn ehangu i farchnadoedd yn Ewrop yn y dyfodol.

Roedd 'na ofid ynglŷn â swyddi pan gafodd y cwmni ei brynu gan Lactalis yn gynharach eleni.

Ond bellach, yn hytrach na chwtogi, y nod yw cynyddu busnes y cwmni a ddechreuodd yn Borth ddechrau'r 1980au.

Mae 120 o bobl yn gweithio i'r cwmni sy'n cynhyrchu iogwrt, llaeth, menyn, hufen a phwdinau.

Cwmni Rachel's yw un o brif gyflogwyr sector breifat yn y dref.

Ethos

"Mae Lactalis yn rhannu'n gweledigaeth ein bod eisiau bod yn gwmni arwyddocaol os nad y prif gwmni ym maes cynnyrch llaeth organic yn y DU," meddai Steve Clarke, rheolwr marchnata'r cwmni.

"Maen nhw yma i'n helpu i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd bod rheolwyr Rachel's wedi cyfarfod Lactalis a'u bod yn "cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r blynyddoedd nesaf".

"Maen nhw wrth eu bodd gyda'r brand a'r ethos ac yn gweld potensial i ni," ychwanegodd.

Dywedodd bod disgwyl 15% o gynnydd mewn gwerthiant y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth sylfaenwyr y cwmni, Gareth a Rachel Rowlands, weld y cwmni yn tyfu o'r dyddiau cyntaf cyn gwerthu'r cwmni i gwmni o America.

Mae'r cwmni wedi ei werthu ddwywaith ers hynny.



HEFYD
Cwmni bwyd wedi ei werthu eto
28 Gorff 10 |  Newyddion
Cwmni organig yn creu swyddi
11 Tach 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific