British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Rhagfyr 2010, 10:53 GMT
Agor ysbyty £53m yn swyddogol

Ysbyty Aneurin Bevan
Fe fydd gan bob claf ei ystafell ei hun yn yr ysbyty

Mae'r ysbyty cyntaf yng Nghymru i gael ystafelloedd sengl yn unig yn cael ei agor yn swyddogol.

Mae 96 o ystafelloedd sengl en-suite yn Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglyn Ebwy.

Bydd yr ysbyty hefyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer cleifion allanol, cyfleusterau iechyd meddwl a gofal cynenedigol.

Mae'r ysbyty £53 miliwn wedi ei chodi ar hen safle gwaith dur y dref.

Mae'n disodli dwy hen ysbyty yn Nhredegar a Blaenau.

Cafodd y cynlluniau ar gyfer yr ysbyty newydd eu cymeradwyo gan Weinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart yn 2007.

'Carreg filltir'

Wrth agor yr ysbyty yn swyddogol ddydd Iau, dywedodd Ms Hart, bod hi'n "garreg filltir bwysig" yn y gwaith o sicrhau bod hi'n haws i bobl cymoedd de Cymru gel gofal iechyd.

"Mae'n briodol bod yr ysbyty newydd yn cael ei enwi er cof am Aneurin Bevan, oherwydd cysylltiad hanesyddol Blaenau Gwent gyda'r Gwasanaeth Iechyd.

"Bydd y cyfleuster newydd hwn yn sicrhau bod gofal iechyd a gynllunnir a gofal iechyd brys ar gael yn nes at gartrefi pobl.

"Ysbyty Aneurin Bevan yw'r cyntaf o genhedlaeth newydd o ysbytai yng Nghymru i gynnig ystafelloedd sengl en-suite i gleifion, a fydd yn eu helpu i wella ac yn helpu i wella preifatrwydd a lleihau perygl heintiau.

"Bydd yn dod ag ystod o wasanaethau dan un to, fel triniaeth cleifion allanol, diagnosteg, gwasanaethau mamolaeth, unedau ar gyfer mân-anafiadau a gwasanaethau Meddyg Teulu y tu allan i oriau."

Aneurin Bevan oedd y gweinidog oedd yn gyfrifol am sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol yn 1948 ac Aelod Seneddol Glyn Ebwy.

Dyma'r prosiect mawr cyntaf ar safle hen waith dur Glyn Ebwy.

Fe fydd hefyd ysgol, gorsaf drenau, theatr, parc a channoedd o dai yn cael eu hadeiladu ar y safle 200 acer.

Mae'r cynllun 15 mlynedd yn un o'r prosiectau adennill tir mwyaf yng Nghymru.



HEFYD
Cleifion yn cyrraedd ysbyty £53m
13 Hyd 10 |  Newyddion
Angen arbed dros £380m
07 Medi 10 |  Newyddion
Galw am enwi ysbytai ar ôl Bevan
30 Rhag 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific