British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Rhagfyr 2010, 06:48 GMT
Buddsoddiad yn creu 50 o swyddi

Canolfan Sony, Pencoed
Canolfan Sony, Pencoed

Mae Canolfan Dechnoleg Sony ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi sicrhau buddsoddiad o £2 filiwn fydd yn creu 50 o swyddi newydd.

Mae'r ganolfan yn cynhyrchu 40 o gamerâu darlledu gwahanol gan gynnwys Manylder Uwch (HD), Manylder Safonol a 3D.

Mae hefyd yn cynhyrchu nwyddau cysylltiedig ar gyfer y systemau gan gynnwys unedau rheoli, teclynnau rheoli o bell a phrif unedau sefydlu i'w defnyddio mewn stiwdios neu ar leoliad.

Eisoes mae nwyddau o'r ffatri wedi eu defnyddio i ddarlledu Cwpan Pêl-droed y Byd yn Ne Affrica eleni a Chwpan Ryder yn y Celtic Manor mewn HD a 3D.

'Hyder'

Dywedodd datganiad gan Lywodraeth y Cynulliad - sydd wedi cyfrannu peth o'r £2 filiwn - fod y buddsoddiad wedi ei sicrhau er gwaethaf cystadleuaeth anodd yn Ewrop, a bod hyn yn dangos llawer o hyder yn arbenigedd y gweithlu ym Mhencoed.

Hwn yw'r unig safle y tu allan i Japan sy'n cynhyrchu'r camerâu blaengar hyn a nwyddau darlledu cysylltiedig
Steve Dalton

Sony UK

"Mae cyfleuster Sony Pencoed wedi llwyddo i ddatblygu'r ganolfan o fod yn un sy'n cynhyrchu llawer o nwyddau gwerth isel i fod yn un gwerth uchel sy'n cynhyrchu nwyddau technolegol-flaengar soffistigedig," meddai Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

"Mae angen cwmnïau gweithgynhyrchu blaengar fel Sony arnon ni i adnewyddu'r economi, a dw i wrth fy modd y bydd cymorth gan Lywodraeth y Cynulliad yn helpu i greu nifer fawr o swyddi o ansawdd uchel."

Prentisiaid

Dywedodd Steve Dalton, Rheolwr Gyfarwyddwr yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK, eu bod yn disgwyl i 39 o swyddi newydd gael eu creu erbyn mis Ionawr, a fydd yn cynnwys technegwyr a pheirianwyr.

Dywedodd hefyd eu bod wedi recriwtio prentisiaid am y tro cyntaf mewn 12 blynedd, er mwyn dechrau'r broses ddatblygu ar gyfer gofynion busnes y dyfodol.

"Mae'n newyddion gwych ar gyfer dyfodol y safle ym Mhencoed fod y buddsoddiad diweddaraf hwn wedi'i sicrhau, sy'n dangos unwaith eto bwysigrwydd strategol y ganolfan o fewn Corfforaeth Sony," meddai.

"Hwn yw'r unig safle y tu allan i Japan sy'n cynhyrchu'r camerâu blaengar hyn a nwyddau darlledu cysylltiedig.

"Y rheswm dros ein llwyddiant yw ein gweithlu cryf sy'n dangos dro ar ôl tro eu bod nhw'n gallu profi eu hunain a chyrraedd meysydd busnes newydd sy'n galw am sgiliau newydd.

"Mae galw sylweddol wedi bod am y camerâu recordio manylder uwch diweddaraf hyn, yn llawer mwy na'r disgwyl, ac rydyn ni'n cynhyrchu mwy i fodloni'r galw cynyddol, sy'n newyddion gwych."

Ar hyn o bryd, mae mwy na 500 o bobl yn gweithio yn safle Pencoed, ac mae 420 ohonyn nhw wedi'u cyflogi'n uniongyrchol gan Sony.



HEFYD
Buddsoddiad newydd yn ffatri Sony
20 Medi 05 |  Newyddion
100 o swyddi'n hwb i dre
18 Ebr 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific