Mae mwy nag un mewn 10 yn pryderu'n fawr am fod yng nghadair y deintydd
|
Mae canran uwch o oedolion yng Nghymru yn cael problemau dannedd nag yn Lloegr, yn ôl yr arolwg mwyaf cynhwysfawr o iechyd dannedd oedolion ers 10 mlynedd. Dywedodd ymchwilwyr fod hyn er gwaetha'r ffaith bod mwy o bobl yng Nghymru yn mynd i'r deintydd yn gyson. Nid oes gan 10% o oedolion yng Nghymru ddannedd naturiol tra bod un mewn 17 yn Lloegr ac un mewn 14 yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan 80% o bobl yng Nghymru ddigon o ddannedd i fwyta'n gyfforddus tra bod 86% yn Lloegr ac 84% yng Ngogledd Iwerddon. Ac mae'r arolwg wedi dangos bod saith allan o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn cael apwyntiadau cyson yn y deintydd. 'Pryderu'n fawr' Dywedodd Prif Weithredwr Canolfan Wybodaeth y Gwasanaeth Iechyd, Tim Straughan: "Mae'r arolwg yn dangos bod iechyd dannedd yn amrywio yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru, ac mae nifer y rhai sy'n mynd i'r deintydd yn gyson yn amrywio. "Mae'r arolwg yn dangos hefyd fod mwy nag un mewn 10 yn pryderu'n fawr am fod yng nghadair y deintydd." Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Mae'r arolwg yn dangos bod iechyd dannedd pobol yng Nghymru yn gwella. "Mae mwy o bobl yn ymweld yn gyson â'r deintydd nag erioed. "Tra bod rhai o'r ystadegau yn cymharu yn anffafriol â Lloegr neu Ogledd Iwerddon, mae angen cydnabod y gwelliant." Cynhaliwyd yr arolwg ar ran y ganolfan wybodaeth rhwng Hydref 2009 ac Ebrill 2010.
|