British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2010, 18:03 GMT
Pen y daith i'r Mesur Iaith

Vaughan Roderick, golygydd Materion Cymreig BBC Cymru yn cael ei holi ar raglen Newyddion

Ar ôl pedair blynedd o drafod a dadlau mae'r Mesur Iaith wedi cyrraedd pen ei daith yn y cynulliad.

Fe barhaodd y dadlau am gynnwys y mesur tan y funud ola a chyflwynodd Llywodraeth y Cynulliad welliant brys ynglyn â statws swyddogol ychydig o oriau cyn y ddadl.

Fe fydd y mesur yn troi'n ddeddf wedi i'r Frenhines roi sêl bendith yn y Flwyddyn Newydd.

Ddydd Gwener roedd Aelodau Cynulliad yn trafod mwy na 70 o welliannau.

Fe fydd y mesur yn gorfodi cwmnïau yn y sector preifat i gynnig gwasanaeth llawn Cymraeg a sefydlu Comisiynydd Iaith.

Safonau

Bydd y mesur yn creu swydd Comisiynydd Iaith fydd yn gosod safonau newydd o ran gwasanaethau Cymraeg.

Bydd y Comisiynydd yn gallu cosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau os nad ydyn nhw'n cyrraedd y safonau hynny.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, fod y mesur yn "ddeddfwriaeth synhwyrol, yn gadarn ac yn ymarferol".

"Rwy'n falch fy mod wedi cael llywio'r ddeddfwriaeth trwy'r cynulliad sy'n cadarnhau statws swyddogol yr iaith, sy'n creu eiriolydd cryf dros siaradwyr y Gymraeg ac a fydd yn cynyddu'n sylweddol nifer y gwasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

'Hanesyddol'

"Mae heddiw yn ddiwrnod gwir hanesyddol i'r iaith Gymraeg."

Cyn y bleidlais roedd Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad oedd y mesur yn mynd yn "ddigon pell".

Dywedodd Catrin Dafydd o'r mudiad fod heddiw yn "ddiwrnod hanesyddol" ond eu bod yn teimlo yn gryf nad oedd nifer o hawliau crai yn y mesur.

Ychwanegodd y bydden nhw'n brwydro am fesur newydd yn y dyfodol.

"Mae'r mesur hwn yn grymuso swyddogion ond nid yw'n grymuso dinasyddion yn yr un modd, a bydd diffygion y mesur yn siwr o ddangos hynny yn y dyfodol," meddai.

"Ac mae hefyd yn fesur hynod gymhleth ac mae pryder gwirioneddol gennym ynghylch sut y bydd modd ei weithredu er lles y Gymraeg a phobl Cymru."

Dywedodd Eleanor Burnham AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol nad yw'r mesur yn mynd yn ddigon pell o ran gwarchod hawliau Cymry Cymraeg.

"Roedd Llywodraeth Llafur Plaid Cymru wedi gaddo statws swyddogol i'r iaith," meddai.

"Ond hyn hytrach na hynny rydym wedi cael yw cawlach....nid y datganiad diamwys yr oedd ymgyrchwyr wedi ei obeithio."

Y ddadl yn y cynulliad ddydd Mawrth



HEFYD
'Ai hwn yw pen draw'r daith?'
07 Rhag 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific