Gallai swyddi athrawon fod o dan fygythiad
|
Fe allai cynlluniau i ad-drefnu addysg uwchradd ym Mhowys fod gam yn nes ar ôl i swyddogion addysg argymell y dylai cynghorwyr gefnogi'r cynlluniau. Mae'r cynlluniau yn cynnwys uno ysgolion, a'r posibilrwydd y bydd rhai ysgolion yn colli eu chweched dosbarth. Bydd cyfnod ymgynghori o dri mis yn dechrau ym mis Ionawr pe bai Bwrdd Rheoli Powys yn pleidleisio o blaid y cynllun ddydd Mawrth. Ond mae yna wrthwynebiad chwyrn gan undebau athrawon, sy'n poeni y bydd yna nifer mawr o ddiswyddiadau. Yr wythnos diwethaf dywedodd y cyngor y byddai'r 13 o ysgolion uwchradd yn parhau ar agor. Roedd pryder ymhlith rhai y gallai hyd at chwech o ysgolion gau. Nifer disgyblion yn gostwng Nawr mae swyddogion addysg yn argymell cadw 13 o safleoedd, ond uno rhai ysgolion. Byddai hyn yn gadael saith neu wyth o ysgolion uwchradd. Dywed y cyngor fod angen y newidiadau oherwydd bod nifer y disgyblion yn gostwng. Mae hefyd angen gwario yn sylweddol ar wella adeiladau. Fe allai'r cynlluniau weld un pennaeth ar gyfer tair ysgol. Yr wythnos diwethaf dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai swyddi yn mynd o ganlyniad i ddiswyddiadau gwirfoddol neu ymddeoliad cynnar. Mae yna gynigion hefyd i gau chweched dosbarth, a sefydlu canolfanau chweched ar y cyd gyda Choleg Powys. Bydd Bwrdd rheoli'r cyngor yn penderfynu ddydd Mawrth a ddylid gwneud cais am £220 miliwn o gronfa Llywodraeth y Cynulliad. Byddai'n rhan o gynllun 15 mlynedd sy'n werth £314 miliwn ar gyfer addysg uwchradd ac addysg gynradd. Byddai'r sir yn gyfrifol am gyfrannu £94 miliwn.
|