British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Rhagfyr 2010, 13:35 GMT
Gwesty yn Nhalacharn yn cau a 30 o swyddi'n mynd

Hurst House
Aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Tachwedd

Mae gwesty yn y gorllewin yn cau a 30 o bobl yn colli eu gwaith.

Aeth cwmni Followset, oedd yn gyfrifol am Hurst House yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin, i ddwylo'r gweinyddwyr ar Dachwedd 24.

Dywedodd y gweinyddwyr, Grant Thornton, eu bod wedi gobeithio gwerthu'r gwesty ond nad oedd hynny wedi bod yn bosib.

Roedd yr actor Neil Morrissey yn berchennog y gwesty 17 ystafell rhwng 2001 a 2008.

'Anodd'

Gyda'r dyn lleol, Matt Roberts, roedd yn berchen ar Brown's Hotel lle oedd y bardd Dylan Thomas yn arfer mynd, a thafarn y New Three Mariners.

Dywedodd Alistair Wardell o Grant Thornton fod y cau'n effeithio ar 30 o swyddi llawn a rhan amser.

"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd ac, yn anffodus, rydyn ni wedi casglu mai cau yw'r opsiwn gorau," meddai.

"Mae hyn o ganlyniad i drafferthion masnachu wrth chwilio am brynwr.

"Rydym yn gobeithio gallu gwerthu yn y tymor byr ..."



HEFYD
Tafarn Talacharn i actor
22 Ebr 04 |  Newyddion
Tafarn Talacharn ar werth
21 Ebr 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific